Neidio i'r prif gynnwy

O Drawiad ar y Galon i 10K: Taith Adferiad Rob King gyda parkrun yn ysbrydoli eraill 

"Ar 12fed Gorffennaf, 2025, newidiodd fy mywyd mewn amrantiad". Cafodd Rob drawiad ar y galon yn 59 oed a achoswyd gan rwystr yn ei rydweli LAD - digwyddodd hyn ddiwrnod yn unig cyn yr oedd i fod i redeg 10k Mic Morris Torfaen.  

Clefyd cardiofasgwlaidd yw un o'r problemau iechyd mwyaf ym mhob cwr o Went, ac mae Rob yn rhannu hanes ei adferiad rhyfeddol er mwyn helpu eraill i fod yn fwy ymwybodol o sut i gadw iechyd eu calon ar y trywydd iawn.  

“Fel rhywun a oedd wedi bod yn actif erioed, daeth hyn fel sioc. Wrth edrych yn ôl, roedd arwyddion i’m rhybuddio: ychydig o ddiffyg anadl yn ystod ymarfer corff (roeddwn i’n beio’r tywydd poeth am hyn), a thensiwn yn y frest o bryd i'w gilydd. Ond wnes i ddim cwympo i’r llawr yn ddramatig na chael ataliad y galon - ond roedd yn ddigon i wneud i mi geisio cymorth." 

Ar ôl ei drawiad ar y galon cafodd Rob ei dderbyn i Uned y Galon Acíwt yn y Faenor. “Cefais ofal arbennig - roedden nhw'n wych o'r amser y cefais fy derbyn i’r amser y cefais fy rhyddhau.  Ni allaf ganmol gofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigon. Yn dilyn hyn, dechreuais raglen Adsefydlu 8 wythnos Cardio Gwent ym Mhanteg, lle rhoddodd y tîm cyfan gefnogaeth ragorol.   

Dechreuais ddychwelyd i ffitrwydd yn gynt nag y byddai llawer yn ei ddisgwyl - ac roedd parkrun yn rhan holl bwysig o’m hadferiad”.  

Pythefnos ar ôl ei drawiad ar y galon, ailymunodd Rob â parkrun Cwmbrân fel gwirfoddolwr . Cefnogodd hyn ei iechyd meddwl, ac yn nes ymlaen, symudodd ymlaen i gerdded ac yna rhedeg. Erbyn mis Medi, dim ond 11 wythnos ar ôl y digwyddiad, roedd wedi cwblhau'r London Vitality 10K — carreg filltir anhygoel yn ei adferiad.  

“Y peth gwych am parkrun yw nad oes unrhyw farnu - p’un a ydych chi’n cymryd 20 munud neu 60 munud, rydych chi’n cael eich dathlu’n gyfartal”.  

Ddydd Sadwrn 29ain Tachwedd bydd digwyddiad parkrun arbennig i godi ymwybyddiaeth o iechyd y galon yn cael ei gynnal ar safle parkrun River Front yng Nghasnewydd. Yng nghwmni staff y GIG a’r British Heart Foundation gall y mynychwyr ddysgu popeth am ofalu am eu calon. 

Ymunwch â Rob ac eraill ddydd Sadwrn 29ain Tachwedd “nid rhedeg yn unig yw parkrun. Mae'n ymwneud â chymuned, cynhwysiant a chefnogaeth. P'un a ydych chi'n gwella o salwch, yn adeiladu ffitrwydd, neu ddim ond eisiau bod yn rhan o rywbeth arbennig - gallwch wirfoddoli, cerdded, rhedeg ar eich cyflymder eich hun, neu droi fyny am sgwrs a choffi. Y peth pwysig yw cymryd rhan”.