Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn chwilio am arweinydd eithriadol i arwain ein sefydliad a llunio dyfodol gofal iechyd yng Ngwent.
Fel Cadeirydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau gofal o ansawdd uchel, ysgogi arloesedd, a gweithio gyda chymunedau a phartneriaid i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyma'ch cyfle i arwain, ysbrydoli a dylanwadu ar ofal iechyd ar y lefel uchaf.
Os oes gennych y weledigaeth a'r ymrwymiad i ymgymryd â'r rôl bwysig hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais ar wefan Llywodraeth Cymru.