Neidio i'r prif gynnwy

Olrhain Cyswllt yn cychwyn yng Ngwent

Mewn ymateb i strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn Llywodraeth Cymru, mae partneriaid gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r pum Awdurdod Lleol yng Ngwent wedi ymuno i ddechrau olrhain cyswllt yn Gwent a bydd y gwasanaeth yn mynd yn fyw ar Ddydd Llun Mehefin 1af.

Bydd y Tîm Olrhain Cyswllt yn cysylltu â phobl sy'n profi'n bositif a gofynnir iddynt rannu manylion pobl eraill y buont mewn cysylltiad agos â hwy, er enghraifft gartref neu yn y gwaith.

Yna bydd staff yn y gwasanaeth Olrhain Cyswllt yn galw'r holl 'gysylltiadau' hyn ac yn darparu cyngor ar yr hyn y dylent ei wneud. Yn dibynnu ar y sefyllfa, gallai hyn gynnwys:

  • Ynysu gartref am 14 diwrnod
  • Cael prawf ar gyfer covid-19
  • Galwadau ffôn dilynol dyddiol i bobl er mwyn gwirio am symptomau
  • Rhoi cyngor ac arweiniad penodol i bobl agored i niwed
  • Atgyfnerthu cyngor ar hylendid gartref ac yn y gymuned, a phellter cymdeithasol

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: “Mae olrhain cyswllt yn ffordd ddibynadwy o gyfyngu ar ledaeniad coronafirws yn y gymuned.

Bydd y strategaeth profi, olrhain ac amddiffyn yn cefnogi'r bobl sydd wedi profi'n bositif am Covid-19 ac yn olrhain y bobl y gallent fod wedi trosglwyddo'r firws iddynt trwy gyswllt diweddar.

Os ydym i gyd yn chwarae ein rhan, yn cadw pellter cymdeithasol ac yn ynysu pan gyfarwyddir ni, byddwn yn lleihau trosglwyddiad a lledaeniad y firws. Bydd hyn yn ffactor o bwys wrth leddfu cyfyngiadau cloi a galluogi'r adferiad cymdeithasol ac economaidd yng Ngwent."

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rwy’n falch o weld y rhaglen olrhain a chyswllt yn cael ei lansio yng Ngwent. Bydd y dull hwn yn caniatáu inni nodi achosion a sicrhau bod pobl sy'n profi'n bositif yn ynysu gartref a bod eu cysylltiadau'n cael y cyngor sydd ei angen arnynt. Bydd hyn yn gweithio i leihau lledaeniad coronafeirws ar draws Gwent. Rwy'n falch iawn o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn, er fy mod i'n cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd i amddiffyn y GIG a phobl Gwent."

Symptomau mwyaf cyffredin coronafeirws yw dechrau un neu fwy o'r canlynol yn ddiweddar:

  • Peswch parhaus newydd
  • Tymheredd uchel
  • Colli neu newid i arogl neu flas

Dylech aros gartref am saith diwrnod os oes gennych symptomau. Os ydych chi'n byw gyda rhywun sydd â symptomau ond sy'n iach, dylech hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru