Neidio i'r prif gynnwy

Pa Effaith Gafodd Pandemig Covid-19 Arnoch Chi?

Dydd Mercher 24 Awst 2022

Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi’i roi ar waith i edrych ar barodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Hoffai'r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) clywed gan y cyhoedd yng Nghymru am unrhyw agwedd yr effeithiwyd ar eu bywydau, er enghraifft eu hiechyd neu ofal cymdeithasol, addysg, gwaith, cartref, arian, cymorth, eu bywyd teuluol neu gymdeithasol. Y CIC yw corff gwarchod annibynnol y GIG yng Nghymru, ac maent yn annog ac yn cefnogi pobl i gael llais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau GIG. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth. Bydd y CIC yn rhannu'r hyn a ddywedwch yn uniongyrchol gydag Ymchwiliad y DU. Efallai y byddant hefyd yn rhannu'r hyn a glywn gyda'r GIG, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a all gymryd camau i wneud newidiadau lle mae angen hynny.
 

Gellir gwblhau'r arolwg ar wefan y CIC.

Os hoffech gael yr arolwg hwn mewn fformat a/neu iaith arall, cysylltwch â’r CIC:

Ffôn : 02920 235558

Gwefan: boardchc.nhs.wales

E-bost: enquiries@waleschc.org.uk