|
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth a chamau gweithredu gyda’r nod o gefnogi darpariaeth y flaenoriaeth Weinidogol allweddol hon ar gyfer Cymru. Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda’n partneriaid allanol i ganfod unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud cais am swyddi bwrdd. I weld yr hysbysebion diweddaraf ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, ewch i: Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr - Is-Gadeirydd - Y dyddiad cau ar gyfer yr apwyntiadau uchod yw 02/02/2026 am 16:00. |