Neidio i'r prif gynnwy

Pobl Gwent yn cael eu hannog i "Wybod Eich Statws" yr Wythnos Profi am HIV hon

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annog pobl ledled Gwent i gael prawf am HIV fel rhan o Wythnos Profi am HIV (17–23 Tachwedd), gan dynnu sylw at y ffaith y gall unrhyw un gael HIV, nid yw'n gwahaniaethu.

 

Mae ffigurau diweddar gan Lywodraeth Cymru yn dangos gostyngiad o 20% mewn achosion newydd o HIV ledled Cymru, ochr yn ochr â chynnydd o 8.3% yn nifer y bobl sy'n cael prawf, arwyddion clir bod cynnydd yn cael ei wneud o ran diagnosis ac atal cynnar.

 

Yn gynharach eleni, daeth Gwent yn Rhanbarth Llwybr Cyflym, gan ymuno â mudiad byd-eang i roi terfyn ar drosglwyddiadau HIV newydd a dileu’r stigma sy'n gysylltiedig â HIV erbyn 2030.

 

Meddai Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Gwent:
"Gall unrhyw un gael HIV, nid yw'n gwahaniaethu. Ond gall unrhyw un gael prawf amdano. 

 

Y newyddion da yw, gyda thriniaeth effeithiol, gall pobl sy'n byw gyda HIV fyw bywydau hir ac iach, ac mae triniaeth hefyd yn atal y feirws rhag cael ei throsglwyddo i eraill (Undetectable = Untransmittable).

 

Mae profion yn gyflym, maent am ddim ac maent yn gwbl gyfrinachol. Gallwch hyd yn oed eu gwneud gartref gyda phrawf pigiad bys syml. Mae gwybod eich statws yn fodd o’ch amddiffyn chi ac eraill ac yn fodd o atal y stigma."

 

I nodi Wythnos Profi HIV, bydd y Tîm Diogelu Iechyd allan yn y gymuned ac yn ein Huned Diogelu Iechyd newydd (ein Nye BeVAN) i godi ymwybyddiaeth ac ateb cwestiynau am brofion ac atal HIV.

  • Canolfan Siopa Cwmbrân – Dydd Llun 17fed Tachwedd 2025/ Sgwâr Gwent/o 10am
  • Stryd Fawr Casnewydd – Dydd Mercher 19fed Tachwedd 2025/ o 10am

 

Gall pobl ddod i ddysgu mwy am brofion HIV, a darganfod pa mor hawdd yw cymryd prawf, gan gynnwys cael gafael ar becyn profi cartref am ddim yn gyfrinachol.

 

Dyw profi am HIV erioed wedi bod yn haws. Gallwch archebu eich pecyn prawf HIV cyfrinachol am ddim,  heddiw o www.SHWales.online.

 

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw Cymru ar y trywydd iawn er mwyn rhoi terfyn ar drosglwyddiadau HIV newydd a gwneud yn siŵr bod stigma yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.