Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd pobl gymwys yn cael cynnig y brechlyn Meningococcal Grŵp B (MenB) am gyfnod penodol. Bydd y gwaith o gyflwyno'r brechlyn yn dechrau ar 20fed Gorffennaf 2026 a bydd yn cael ei gyflwyno ledled Gwent gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae clefyd meningococcal grŵp B (MenB) yn haint bacteriol prin ond difrifol a all arwain at meningitis a sepsis. Gall ddatblygu'n gyflym a chael canlyniadau dinistriol.
Mae pobl ifanc mewn mwy o berygl pan fyddant yn symud i lety a rennir ac yn dechrau cymysgu â grwpiau cymdeithasol newydd. Dyna pam mae pobl ifanc gymwys yn cael cynnig y brechlyn MenB fel rhan o raglen frechu wedi'i thargedu.
Mae'r brechlyn yn darparu amddiffyniad pwysig a gall helpu i leihau'ch risg o ddatblygu salwch difrifol.
Mae'r brechlyn ar gael i bawb sy’n 17-18 oed, os cawsant eu geni rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008, a bydd y garfan hon yn derbyn gwahoddiad yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd drwy lythyr a neges destun i dderbyn eu brechlyn. Os nad ydych wedi derbyn eich llythyr gwahoddiad neu neges destun erbyn 31eg Gorffennaf 2026 , cysylltwch â'r ganolfan trefnu apwyntiadau ar 0300 303 1373.
Mae'r brechlyn hefyd ar gael i'r unigolion sydd o dan 25 oed, sy'n mynychu addysg uwch/addysg bellach breswyl am y tro cyntaf. Os ydych chi'n perthyn i'r categori hwn, bydd angen i chi drefnu apwyntiad i dderbyn eich brechlyn drwy gysylltu â'r ganolfan trefnu apwyntiadau ar 0300 303 1373 neu lenwi'r ffurflen hunan-atgyfeirio: Cynnig Brechlyn MenB
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Rhaglen Brechu Meningococcal B (MenB) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am frechiadau, os oes angen i chi aildrefnu neu drefnu eich apwyntiad, cysylltwch â'r Gwasanaeth Brechu ar 0300 303 1373.
Er gwybodaeth, pan fyddwch chi'n mynychu eich apwyntiad brechu Men B, efallai y byddwch yn cael cynnig brechlynnau eraill, yr ydych wedi’u methu, o bosib, pan oeddech chi'n iau
Diolch am helpu i gadw eich hun a'n cymunedau'n ddiogel.
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, cymhwysedd a chwestiynau cyffredin, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Brechlyn MenB i bobl ifanc - Iechyd Cyhoeddus Cymru