Neidio i'r prif gynnwy

Polisi 'Dim Ymweld' i'w Ymestyn i Ardal Gyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Er mwyn amddiffyn ein cleifion, y cyhoedd a'n staff, mae'r Bwrdd Iechyd wedi barnu ei bod yn hanfodol cymeradwyo polisi 'Dim Ymweld', sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer Bwrdeistref Sir Caerffili oherwydd y cyfnod clo lleol.

Fodd bynnag, gydag achosion cadarnhaol hefyd yn codi mewn meysydd eraill, bydd y Polisi 'Dim Ymweld' hwn yn cael ei ymestyn i'n holl wardiau ac ardaloedd cleifion ardraws y Bwrdd Iechyd (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen). Mae ymestyn y trefniadau 'Dim Ymweld' yn dod i rym o 9:00 am ar Ddydd Gwener 11 eg Medi 2020.

Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cyswllt rhwng cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ond mae'n rhaid i ni gymryd mesurau i atal yr haint hwn rhag lledaenu.

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn llwyr werthfawrogi bod hyn yn anhygoel o anodd, ond hoffem eich sicrhau y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson, bydd yr eithriadau canlynol yn berthnasol:

Dylid caniatáu ymweld ar gyfer:

  • Merched ar fin rhoi genedigaeth (partner geni, o'u cartref)
  • Rhiant neu warcheidwad enwebedig ar gyfer plentyn yn yr Ysbyty ac ar gyfer babanod newydd-anedig
  • Rhywun â mater iechyd meddwl, anabledd dysgu neu awtistiaeth, lle fydd dim fod yn bresennol yn achosi trallod i'r claf/ defnyddiwr gwasanaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu gan Rheolwr y Ward a bydd opsiynau ymweld yn cael eu sicrhau ymlaen llaw.
  • Cleifion ar Ofal Diwedd Oes. Sicrheir caniatâd i ymweld ymlaen llaw (lle bo hynny'n bosibl), un ymwelydd ar y tro fydd hwn am swm penodol fel y cytunwyd gyda Rheolwr y Ward.

 

Diolch i chi am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth yn ystod yr amseroedd anodd iawn hyn.