Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru yn Cynnal Seremoni Agoriadol Swyddogol yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Dydd Gwener 27 Awst 2021

Agorwyd Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ysbyty Athrofaol Y Faenor, yn swyddogol heddiw gan y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru AS.

Er y roedd Hysbyty Athrofaol Y Faenor, yn wreiddiol i fod i agor yn Ngwanwyn 2021, agorodd ei drysau i gleifion bron i chwe mis yn gynt na'r disgwyl ar Ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2020, mewn ymateb i bwysau parhaus y Covid-19 Pandemig a'r galw ychwanegol yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn un o gydrannau allweddol Strategaeth Dyfodol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n ceisio chwyldroi gwasanaethau gofal iechyd yn ardal y Bwrdd Iechyd trwy ddarparu gofal mor agos â phosibl i gartrefi cleifion.

Adeiladwyd yr Ysbyty £370 miliwn, a gymerodd dair blynedd i'w adeiladu, gan y prif gontractwyr, Laing O'Rourke, gyda chefnogaeth rheolwyr prosiect, Gleeds, a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

I nodi'r achlysur pwysig hwn yn hanes y Bwrdd Iechyd, agorodd y Prif Weinidog y cyfleuster newydd yn swyddogol heddiw mewn seremoni a gynhaliwyd y tu allan i Ysbyty Athrofaol Y Faenor, gerbron cynulleidfa o westeion gwahoddedig a'r tîm adeiladu o Laing O'Rourke, ynghyd â chynrychiolwyr a staff o'r Bwrdd Iechyd.

Ers agor ei ddrysau ym mis Tachwedd, mae'r Ysbyty eisoes wedi gweld 2,380 o fabanod yn cael eu geni, 45,654 yn mynychu'r Adran Achosion Brys, 3,919 o lawdriniaethau brys a 56,620 o sganiau wedi'u perfformio.

Dywedodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford: “Mae’r pandemig wedi dangos yn glir i ni i gyd pa mor bwysig yw ein hysbytai a’n cyfleusterau iechyd i gymunedau ledled Cymru. Mae Ysbyty Athrofaol Y Faenor eisoes wedi profi ei werth i'r gymuned leol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i agor yr Ysbyty yn gynharach nag a gynlluniwyd. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r staff GIG hynny sy'n gweithio yma am eu holl waith caled yn ystod yr amseroedd anodd hyn."

Dywedodd Judith Paget CBE, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydyn ni wrth ein bodd bod ein gweledigaeth wedi dod yn fyw o’r diwedd ar ôl 16 mlynedd o gynllunio ac mae gennym ni ganolfan gofal critigol pwrpasol yng nghanol ardal Gwent. Mae Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn cynrychioli elfen sylweddol yn ein strategaeth Dyfodol Clinigol, i'n galluogi i ddarparu system gofal iechyd cynaliadwy y gellir ei haddasu i anghenion poblogaeth sy'n newid ac sy'n gallu darparu gofal o ansawdd uchel i'n cleifion."

“Mae staff ar draws y Bwrdd Iechyd, ein sefydliadau partner a’n contractwyr wedi gweithio’n ddiflino i’n cyrraedd hyd heddiw, ac mae gallu agor yr Ysbyty bron i chwe mis ynghynt nag a gynlluniwyd i gefnogi ein hymateb i’r pandemig yn dyst cywir i’w ymrwymiad ac ymroddiad.”

“Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid am eu cymorth a’u hanogaeth barhaus trwy gydol y broses hon, gan gynnwys ein partneriaid adeiladu, Laing O’Rourke a Gleeds, am weithio’n eithriadol o galed i gwblhau’r adeilad nid yn unig ar amser, ond yn gynt na'r disgwyl - ni allem fod wedi gwneud hyn hebddyn nhw.”

“Rydym yn ffodus iawn bod ein Contractwyr, ein partneriaid ac aelodau staff i gyd wedi mynd yr ail filltir er mwyn caniatáu inni agor yn gynt na'r disgwyl, ac mae gallu cwblhau hyn tra yng nghanol Pandemig Byd-eang yn dim byd llai nag anhygoel.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Laing O'Rourke, Mike Lewis: “Mae'n anrhydedd bod yn ôl yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor naw mis ar ôl ei drosglwyddo, a chlywed staff a chlinigwyr yn disgrifio sut mae'r ysbyty wedi gwella darpariaeth gofal iechyd yn y rhanbarth. Roedd yn bosibl trosglwyddo'n gynnar oherwydd ein bod wedi defnyddio Dulliau Adeiladu Modern (MMC) o'r cychwyn cyntaf ac wrth wneud hynny roeddem yn gallu danfon 50% o'r adeilad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Ebrill 2020 - flwyddyn ynghynt na'r disgwyl yn wreiddiol.

“Rwy’n hynod o falch o’r tîm o bobl a gyflwynodd Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn gynt na'r disgwyl. Mae bod yn rhan o adeiladu ysbyty bob amser yn fraint ond roedd effaith COVID-19 wir wedi symbylu ymdrechion pawbl. Roedd y dynion a’r menywod sy’n gyfrifol am gwblhau’r ysbyty yn teimlo ymdeimlad o gyfrifoldeb personol i gwblhau’n gynnar a darparu cyfleusterau hanfodol y GIG ac i gefnogi pawb sy’n gweithio yn y GIG, y mae arnom gymaint o ddyled iddynt.”

(Yn y llun: Nicola Prygodzicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Digidol a TG, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Mike Lewis, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbyty Athrofaol Y Faenor, Laing O'Rourke; y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford MS, Prif Weinidog Cymru; Ann Lloyd CBE, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Judith Paget CBE, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.)