Dydd Llun 5 Medi 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Nicola Prygodzicz yn Brif Swyddog Gweithredol newydd.
Mae Nicola wedi treulio'r 30 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y GIG yng Nghymru. Ar ôl ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014 fel Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol, datblygodd Nicola yn gyflym i gael ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Digidol a TG yn 2015 ac yn fwy diweddar ymgymerodd â’r swydd Dirprwy Brif Weithredwr.
Arweiniodd Nicola y Rhaglen Dyfodol Clinigol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd ac agoriad Ysbyty Athrofaol y Faenor yn 2020.
Wrth ddechrau yn y swydd Prif Swyddog Gweithredol heddiw, dywedodd Nicola: “Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael dechrau arni ac edrychaf ymlaen at gwrdd â’n staff, cymunedau a phartneriaid dros y misoedd nesaf yn fy swydd newydd.”
Hoffai’r Bwrdd Iechyd hefyd ddiolch i Glyn Jones, a gamodd i mewn fel Prif Weithredwr Dros Dro ym mis Tachwedd 2021 cyn penodi Nicola.