Diolch i'r unigolion sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer ein digwyddiad wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Gymunedol Nant Brân ddydd Iau, 24 Ebrill rhwng 10am ac 1pm. Dyma yw ein digwyddiad a chyfle olaf i fynegi’r hyn sydd ar eich meddwl.
Byddem wrth ein bodd yn gwybod beth sy’n bwysig i chi ar hyn o bryd, wrth ddatblygu Model Coleg Adfer posibl ar gyfer y dyfodol yng Ngwent ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gan ddefnyddio’r safonau cywirdeb rhyngwladol.
E-bostiwch ABB.RecoveryCollegeModelProject@wales.nhs.uk gydag enwau, nifer y bobl sy’n dod, ac unrhyw beth arall yr ydych yn teimlo y gallai fod yn ddefnyddiol i’r tîm ei wybod er mwyn eich cefnogi ar y diwrnod.
Rydym yn deall bod gan bawb wahanol ffyrdd o gyfathrebu ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb. Mae Alice - un o’n cyd-hwyluswyr ar y diwrnod, wedi rhannu’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar y diwrnod.
Mae gennym gaban lles yn y lleoliad sydd am ddim i bawb. Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno cymryd ychydig o amser i fyfyrio, anadlu neu rywfaint o amser i chi eich hun.
Diolch o galon i Growing Space ac Able Radio am adael i bawb sy’n cymryd rhan barcio am ddim ar y diwrnod.
Bydd te, coffi, ffrwythau a chacennau ar gael drwy’r dydd. Bydd dewisiadau amgen i gynnyrch llaeth ar gael hefyd. Mae pob croeso i chi ddod â lluniaeth neu fwyd gyda chi os ydych yn dymuno gwneud hynny.
Unrhyw gwestiynau - cysylltwch!
Prosiect Model Coleg Adfer Cenedlaethol Gwent