Rydym yn parhau i brofi pwysau parhaus trwy ein system ac yn profi lefel eithriadol o alw oherwydd cyfuniad o gynnydd yn nifer o gleifion argyfyngus sâl iawn yn mynychu, ynghŷd â chynnydd yn y nifer o gleifion sydd yn profi oedi yn ein hysbytai yn aros i’w rhyddhau.
Yn ogystal â hyn, rydym yn gweld cynnydd sylweddol mewn achosion norofeirws ledled Gwent, sy'n parhau i effeithio ar ein gwasanaethau. Rydym yn gofyn i bobl beidio ag ymweld â pherthnasau mewn unrhyw un o'n hysbytai os ydynt wedi bod yn sâl gyda symptomau dolur rhydd a chwydu, a dim ond i ymweld os ydynt wedi bod yn rhydd o symptomau am o leiaf 48 awr.
Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau rydych chi'n eu dewis. Bydd dewis y lle iawn i dderbyn cyngor a gofal yn ein helpu i sicrhau nad yw ein hysbytai yn cael eu llethu a'n galluogi i ddarparu triniaeth amserol i'r cleifion sydd ei angen fwyaf.
Am gyngor ar ble i gael cymorth meddygol, ewch i'n Canllaw Iechyd Gwent ar-lein: Canllaw Iechyd Gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus dros y gaeaf.
O ganlyniad i bwysau parhaus a risg trwy system yr ysbyty dros yr wythnos diwethaf rydym wedi cyhoeddi Digwyddiad Critigol prynhawn yma.
Rydym wedi cymryd y penderfyniad gan fod ein gwasanaethau ar hyn o bryd yn profi lefel eithriadol o alw oherwydd cyfuniad o gynnydd yn nifer o gleifion argyfyngus sâl iawn yn mynychu, lefelau uchel o heintiau feirws gaeafol ar ein wardiau, a chynnydd yn y nifer o gleifion sydd yn profi oedi yn ein hysbytai yn aros i’w rhyddhau.
Rydym yn parhau i ofyn am eich cefnogaeth drwy fynychu dim ond os yw'n peryglu bywyd, neu os oes gennych anaf difrifol iawn.
Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau rydych chi'n eu dewis. Bydd dewis y lle iawn i dderbyn cyngor a gofal yn ein helpu i sicrhau nad yw ein Hysbytai yn cael eu llethu a'n galluogi i ddarparu triniaeth amserol i'r cleifion sydd ei angen fwyaf.
Ystyriwch ymweld â'ch Fferyllfa leol, eich Meddyg Teulu, ymweld â https://111.wales.nhs.uk/selfassessments neu ffonio GIG 111 i gael cyngor. Gallwch hefyd ffonio 111 os oes angen i chi gael gofal sylfaenol brys pan fydd eich meddygfa eich hun ar gau.
Gall ein Hunedau Mân Anafiadau trin amrywiaeth o anafiadau, megis:
• Anafiadau i'r coesau sy'n cynnwys esgyrn wedi torri a mân ddirywiadau i’r cymalau
• Clwyfau, cwt, a mân losgiadau
• Anafiadau pen ar yr amod nad ydynt wedi colli ymwybyddiaeth nac yn cymryd cyffuriau teneuo gwaed
• Anafiadau wyneb ar yr amod nad ydynt wedi colli ymwybyddiaeth
Dewch o hyd i'ch Uned Mân Anafiadau agosaf yma: Unedau Mân Anafiadau (MIU) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion gwasanaethau amgen trwy ymweld â'n Canllaw Iechyd Gwent ar-lein: Canllaw Iechyd Gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus yn y cyfnod heriol hwn i'n GIG. Byddwn yn eich diweddaru dros y dyddiau nesaf.