Yn yr un modd â Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru a'r DU, mae ein system dan bwysau difrifol oherwydd lefelau uchel o salwch y gaeaf a’r niferoedd o gleifion sydd angen eu derbyn i'n hysbytai.
Mae ein Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor dan bwysau sylweddol ac rydym yn gofyn am eich cefnogaeth drwy ddim ond ei fynychu os yw'n peryglu bywyd, neu os oes gennych anaf difrifol iawn.
Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau rydych chi'n eu dewis. Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, edrychwch ar Ganllaw Iechyd Gwent: https://bipab.gig.cymru/ysbytai/canllaw-iechyd-gwent/