Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau Gaeaf Eithafol ar ein Gwasanaethau

Dydd Mawrth 20 Rhagfyr 2022

Fel gweddill Cymru, mae ein gwasanaethau yn parhau i fod dan bwysau aruthrol yr wythnos hon. Rydym yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu ein holl wasanaethau gyda’r Ffliw, Covid a salwch anadlol eraill ac mae hyn yn arwain at arosiadau hir i gleifion.


Helpwch ni trwy ddewis yn ddoeth a dim ond defnyddio gwasanaethau pan fo gwir angen. Nid yw hyn yn golygu ein bod ni eisiau i bawb gadw draw – ein neges ni yw os ydych chi ein hangen ni, yna rydyn ni yma i chi. Os yw pobl yn ansicr beth i’w wneud (neu ble i fynd) pan fyddant yn sâl, yna mae gwiriwr symptomau 111 GIG Cymru ar-lein yn fan cychwyn gwych i gael cymorth a chyngor.

Os oes angen i chi ymweld â'n hysbytai, byddwch yn barod i aros yn hir. Bydd y cleifion mwyaf sâl yn cael eu blaenoriaethu.

Mae hwn yn aeaf anodd iawn i bawb – yn enwedig ein staff gofal iechyd a chymdeithasol gwerthfawr, sy’n gweithio’n galed iawn i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl. Byddwch yn garedig â'r bobl hyn, sy'n ymroddedig i ofalu am eraill.

Diolch am eich dealltwriaeth, eich cymorth a'ch cefnogaeth ar yr amser anodd iawn hwn.