Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau'r Gaeaf Ar Draws Ein Gwasanaethau

Dydd Gwener 30 Rhagfyr 2022

Byddwch siŵr o fod wedi gweld y pwysau eithafol ar y GIG ledled Cymru a’r DU ar hyn o bryd. Nid yw ein safleoedd a’n gwasanaethau’n wahanol, a gyda nifer fawr o gleifion â firws anadlol - yn enwedig y ffliw a Covid-19 - rydym yn profi galw digynsail ac arosiadau hir am ein gwasanaethau. Mae’r cynnydd sylweddol mewn firysau anadlol ar draws ein cymunedau hefyd yn achosi lefelau uchel o salwch staff, sy’n rhoi pwysau pellach ar ein gwasanaethau a’n staff.

Gofynnwn am eich cefnogaeth i ddefnyddio ein gwasanaethau’n briodol i’n helpu i drin y cleifion mwyaf sâl cyn gynted â phosibl. Os nad ydych yn siŵr ble i fynd, gwiriwch eich symptomau gyda'r gwiriwr symptomau ar-lein neu ffoniwch 111 (10am i 2pm yw'r amseroedd prysuraf). Mae ein Hunedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr ar agor drwy gydol y gwyliau banc ac yno i drin amrywiaeth o fân anafiadau, gan gynnwys mân losgiadau, ysigiadau a brathiadau.

Dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y dylech fynd i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ac mae'n debygol y byddwch yn wynebu arhosiad hir os byddwch yn mynychu yno, gan ein bod bob amser yn blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol. Oherwydd yr heriau eithafol yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, mae'n bosibl y byddwch chi neu berthynas yn cael triniaeth mewn ardal na fyddem yn ei ddefnyddio fel arfer a hefyd pan fyddwch yn cael eich derbyn mewn i'r ysbyty. Ymddiheurwn yn ddiffuant am hyn ond rydym yn wynebu amgylchiadau digynsail. Yn aml nid yw'r seddi yn ystafell aros ein Adran Frys yn y Faenor yn gallu ymdopi â nifer y cleifion sy'n dod i'r ysbyty, sy'n broblem barhaus ac rydym yn bwrw ymlaen â chynlluniau i'w ehangu. Ymddiheurwn am yr anghysur a'r straen y mae hyn yn ei achosi i gleifion ac os yw'r ystafell aros yn llawn efallai y byddwn yn gofyn i berthnasau aros yn rhywle arall os nad oes rheswm cymdeithasol/gofalwr i berthnasau fynd gyda'r cleifion. Bydd hyn yn rhoi lle i gleifion eistedd yn y man aros ac i staff eu harsylwi rhag ofn iddynt ddirywio. Os oes ar glaf angen rhywun i ddod gydag ef, dylid cyfyngu hyn i un person yn unig.

Os nad oes unrhyw reswm meddygol i chi neu’ch perthynas aros yn yr ysbyty efallai y byddwn yn awgrymu y byddai’n fwy priodol i chi gael eich rhyddhau neu i’ch teulu gefnogi’r rhyddhau cyn belled â’i bod yn ddiogel gwneud hynny. Gall hyn olygu darparu gofal i aelod o'ch teulu am gyfnod byr tra bod gofal cartref yn cael ei drefnu.

Ymddiheurwn yn llwyr am yr amgylchiadau hyn - nid dyma’r safon gwasanaeth rydym yn anelu i’w ddarparu, ond mae ein staff yn gwneud eu gorau glas, felly byddwch yn garedig â’r bobl sy’n gweithio’n ddiflino i ymdopi â’r galw ac yn treulio eu dyddiau yn gofalu eraill.

Cofiwch hefyd gysylltu â'ch perthnasau, cymdogion a ffrindiau sy'n agored i niwed i sicrhau bod ganddynt ddigon o fwyd a meddyginiaeth, a'u bod yn gynnes ac yn gyfforddus. Gallai edrych ar eu hôl a gwirio eu bod yn iach eu helpu i osgoi gorfod mynd i'r ysbyty dros y gaeaf.

Diolch am eich dealltwriaeth.