Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae'r ymyriad, a arweinir gan Home-Start Cymru, yn rhaglen 6 sesiwn lle bydd teuluoedd yn cael cynnig cymorth naill ai mewn grŵp neu gymorth 1:1 ar gyfer gwahanol agweddau ar ddatblygiad plant, lleferydd, iaith a chyfathrebu, trefniadau dydd i ddydd, chwarae a mwy. Bydd teuluoedd hefyd yn cael bag a fydd yn cynnwys adnoddau i gefnogi eu taith, gan gynnwys:
Mae'r adborth sydd wedi’i roi yn barod wedi bod yn wych:
"Mae fy nau blentyn yn mwynhau chwarae gyda'r teganau yn y grŵp. Ers i ni fynychu, mae eu lleferydd a'u hiaith wedi gwella." - Rhiant, Casnewydd
"Roedd fy mhlentyn yn hoff iawn o'r swigod o'r pecyn adnoddau, ac roedd yn sgriblo gyda'r creonau lliwio ar unwaith" - Rhiant, Torfaen
"Sylwodd Ellise (staff) fod fy mhlentyn yn aml yn dweud dechrau geiriau yn hytrach na'r geiriau llawn. Rwy'n gwneud yn siŵr fy mod yn ailadrodd y geiriau llawn yn ôl iddo ac rydw i wedi cael fy mhlant hŷn i barhau i ymarfer hyn." - Rhiant, Caerffili
"Wrth siarad â Mam, dywedodd nad yw ei phlentyn fel arfer yn bwyta llawer gartref ac na fyddai'n hoffi tost na banana, fodd bynnag, yn ystod ein byrbryd grŵp fe fwytaodd 2 banana a 2 ddarn o dost!" - Becky, Staff Cymorth RTLRTG
O chwarae a darllen gyda'i gilydd i annog sgiliau annibynnol fel gwisgo neu ddefnyddio'r toiled, mae’r holl bethau bach y mae rhieni a gofalwyr yn eu gwneud bob dydd yn helpu eu plentyn i dyfu mewn hyder ac annibyniaeth. Mae Barod i Ddysgu Barod i Dyfu yn darparu cymorth ac adnoddau ar ddatblygiad plant i rieni a phlant er mwyn eu galluogi i fod yn barod i ddechrau'r ysgol.
Pwy sy'n gymwys? (mae’n rhaid i deuluoedd fod yn gymwys ar gyfer bob un o'r meini prawf isod):
Sut allwch chi atgyfeirio?
Os ydych chi'n gweithio gyda theulu a fyddai'n elwa o'r prosiect hwn, cwblhewch y ffurflen atgyfeirio ganlynol: Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu - Atgyfeiriad Mynediad Cyflym
Gallwch hefyd hunan-gyfeirio a chael mwy o wybodaeth drwy e-bostio readytolearn@homestartcymru.org.uk
Er gwybodaeth: