Neidio i'r prif gynnwy

Rhannu Caredigrwydd: Dathlu Diwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell

Heddiw, 17 Chwefror 2025, rydym yn dathlu Diwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell - atgof arbennig o rym ystumiau bach wrth wneud argraff fawr. I nodi’r diwrnod, mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn rhannu caredigrwydd ar draws ein safleoedd a’n wardiau drwy ddosbarthu siocledi i staff er mwyn dangos ein bod yn eu gwerthfawrogi.

Y weithred fach hon yw ein ffordd o ddiolch am yr ymroddiad anhygoel, y tosturi a'r gwaith caled y mae ein staff yn ei ddangos bob dydd. Nid yw eich ymrwymiad i ofal claf yn mynd heb i neb sylwi, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am bopeth a wnewch.

Mewn byd lle gallwn fod yn unrhyw beth, gadewch i ni ddewis bod yn garedig—heddiw a phob dydd.