Neidio i'r prif gynnwy

Rhed y Parc 5k Eich Ffordd, Symud yn Erbyn Canser

Mae pobl sy'n byw gyda chanser ac sydd wedi ei oresgyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael eu hannog i symud fwy fel rhan o'r fenter 5k Your Way, Move Against Cancer (www.5kyourway.org). Mae'r fenter yn cael ei darparu gan MOVE Charity. 

Mae'r grwpiau 5K Your Way, Move Against Cancer Tŷ Tredegar - Casnewydd a Chwmbrân yn gwahodd y rhai sy'n byw gyda chanser ac sydd wedi ei oresgyn, eu teuluoedd, ffrindiau a'r rhai sy'n gweithio gyda gwasanaethau canser i gerdded, loncian, rhedeg, cefnogi neu wirfoddoli yn parkrun Tŷ Tredegar -  Casnewydd a Chwmbrân ar ddydd Sadwrn olaf bob mis ac yna i gymdeithasu yn y caffi lleol. Yn fyr, rydym yn fore coffi actif sy'n cyfuno awyr iach, symudedd a chymdeithasu. 

Gwelwyd fod gan weithgaredd corfforol nifer o fanteision pwysig i bobl sy'n byw gyda chanser. Mae'n lleihau blinder sy'n gysylltiedig â chanser, mae'n cynorthwyo i gadw ffitrwydd cardio-anadlol a chyhyrol ac yn gwella llesiant seicolegol. Fe all hefyd leihau sgil effeithiau triniaeth, lleihau'r risg o'r canser yn dychwelyd ac ymestyn goroesiad. Fodd bynnag, er gwaetha'r manteision hyn, gwelodd adroddiad y GIG mai dim ond 23% o'r bobl sy'n byw gyda chanser sy'n cyflawni'r 30 munud o weithgaredd cymedrol a argymhellir 5 gwaith yr wythnos. Mae'r fenter 5K Your Way, Move Against Cancer sy'n gysylltiedig â'r parkrun, yn darparu'r cyfle i wneud hyn.  

Mae'r grŵp Parkrun 5K Your Way, Move Against Cancer Cwmbrân yn cael ei redeg gan lysgenhadon gwirfoddol:

  • Sian Lewis – Arweinydd Macmillan AHP Cancer
  • Dr Jane Mathlin – Radiograffydd Ymgynghorol, Canolfan Ganser Felindre
  • Tor Collins – Ffisiotherapydd y Fron Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Andrew & Catherine Spencer

Bydd yn dechrau ddydd Sadwrn 25 Chwefror ac yn cyfarfod o flaen yr adeilad brics brown wrth ochr yr Olive Tree, Cae Hamdden Northfields, Cwmbrân, NP44 2JJ.

“Roeddem wrth ein bodd yn clywed am 5K Your Way, Move Against Cancer,” meddai Sian Lewis. "Mae'n fenter genedlaethol sy'n cyfuno grŵp cefnogi canser a parkrun."

Bydd rhagor o wybodaeth am 5K Parkrun Tŷ Tredegar - Casnewydd yn dod yn fuan gan ei fod dal yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd. Y nod yw dechrau ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2023.

Sefydlwyd 5K Your Way gan yr ymgynghorydd oncoleg a phencampwr ironman 12 gwaith Lucy Gossage, a Gemma Hillier-Moses, Rhedwr Rhyngwladol a Sefydlydd yr elusen MOVE a gafodd ddiagnosis o ganser ei hun yn 2012 pan oedd yn 24 oed. 

Ar hyn o bryd mae yna grwpiau 5K Your Way mewn lleoliadau ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae croeso i aelodau newydd ddod i gerdded, loncian, rhedeg neu dim ond am goffi a sgwrs. Mae cyfeillgarwch yn ffurfio a chymuned gefnogol yn cael ei meithrin. Ac mae'r effaith pelen eira wedi dechrau, wrth i bobl weld gwerth mewn creu grŵp 5k Your Way, Move Against Cancer yn eu cymuned leol. Mae cydweithio cadarn gyda parkrun a chymorth gan y gymuned wych o wirfoddolwyr parkrun yn hwyluso'r twf hwn. 

Anogir y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r grŵp i gofrestru ar gyfer parkrun 5k Your Way cyn cyfarfod am 08:45 ar ddydd Sadwrn olaf bob mis. Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan.