Mae EUREGHA yn cynnwys aelodau o bob cwr o Ewrop a buont yn dysgu am bwrpas Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills a sut mae'n darparu cyfle ar gyfer model gofal integredig i'r gymuned leol, yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru.
Dyma sylwadau Emma Spear, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar, Swyddfa Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp , Llywodraeth Cymru:
“Fel rhwydwaith mae gan EUREGHA ddiddordeb mawr mewn dysgu oddi wrth ei gilydd ar arferion gorau mewn gofal cymunedol. Felly, roedden ni’n gwerthfawrogi’r cyfle i ymweld â Chanolfan Iechyd a Lles 19 Hills yn fawr fel enghraifft ardderchog o sut rydyn ni’n cynnig gwasanaethau integredig, cymunedol i bobl Cymru.”
Meddai Lloyd Hambridge, Cyfarwyddwr Is-adran Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol, a Gofal Cymhleth a Hirdymor:
“Roedd yn fraint cael arddangos Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills i’n cydweithwyr Ewropeaidd. Mae'r ganolfan hon yn gam sylweddol ymlaen o ran darparu gofal gwirioneddol integredig, sy'n canolbwyntio ar y person, yng nghanol y gymuned. Rydym yn falch o fod yn rhan o fodel sydd nid yn unig yn cefnogi iechyd a lles ond sydd hefyd yn cryfhau cydweithio ar draws gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl leol nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”