Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru i drawsnewid gofal fasgwlaidd yn y rhanbarth

Ddydd Llun 18 Gorffennaf, bydd y ffordd y mae gwasanaethau fasgwlaidd yn cael eu darparu yn Ne-ddwyrain Cymru yn newid i sicrhau bod y broses o ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel yn cael ei chynnal ar gyfer y dyfodol. Bydd y trawsnewid yn effeithio ar ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru wedi wynebu nifer cynyddol o heriau ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys poblogaeth gynyddol sy’n heneiddio a chynnydd yn y galw am wasanaethau fasgwlaidd. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau yn anghynaliadwy ar gyfer y dyfodol yn eu fformat presennol. Mae'r cyfluniad wedi'i drafod yn helaeth ers blynyddoedd lawer ac archwiliwyd opsiynau lluosog.

Mae clefydau fasgwlaidd yn cwmpasu unrhyw gyflwr sy'n effeithio ar y rhwydwaith o bibellau gwaed a elwir yn system fasgwlaidd neu gylchrediad gwaed. Prif nod gwasanaethau fasgwlaidd yw ailadeiladu, rhyddhau neu ddargyfeirio rhydwelïau i adfer llif gwaed i organau. Mae’r rhain fel arfer yn driniaethau untro, yn bennaf er mwyn lleihau’r risg o farwolaeth sydyn, atal strôc, lleihau’r risg o drychu neu wella swyddogaeth. Mae gwasanaethau fasgwlaidd hefyd yn darparu cymorth i gleifion sydd â phroblemau eraill fel clefyd yr arennau. Amcangyfrifir y bydd yn debygol bod angen llawdriniaeth fasgwlaidd ar oddeutu 1,250 o gleifion ar draws De-ddwyrain Cymru y flwyddyn.

Mae meddygon wedi bod yn trafod opsiynau yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac arfer gorau mor bell yn ôl â 2014. Er bod gan y Byrddau Iechyd yn y rhwydwaith gysylltiadau gwaith hirsefydlog, cafodd Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru ei sefydlu’n ffurfiol i wella cydweithrediad a hybu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Yn gynnar yn 2021, gan weithio’n agos gyda Chynghorau Iechyd Cymuned lleol, hwylusodd Byrddau Iechyd yn y rhwydwaith ymgysylltiad cyhoeddus 8 wythnos ar ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru. Gwahoddwyd y cyhoedd i ddysgu am y cynlluniau arfaethedig a rhannu eu barn trwy amryw sianeli wrth i gynlluniau gael eu datblygu. 

O’r rhai hynny a gymerodd ran yn yr arolwg ar-lein, roedd bron tri chwarter (72%) yn cytuno â’r dystiolaeth genedlaethol a’r argymhelliad gan yr arfarniad o opsiynau clinigol y byddai model prif ganolfan a lloerennau yn gwella gwasanaethau fasgwlaidd a chanlyniadau i gleifion. Yn dilyn adolygiadau annibynnol o'r canfyddiadau, cefnogodd Cynghorau Iechyd Cymuned a Byrddau Iechyd partner yr achos i symud ymlaen a gweithredu'r model prif ganolfan a lloerennau arfaethedig.

Mae’r model prif ganolfan a lloerennau newydd yn golygu y bydd yr holl lawdriniaethau fasgwlaidd yn cael eu cynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru fel y prif ganolfan, ond bydd y rhan fwyaf o’r gofal yn cael ei ddarparu yn nes at gartrefi pobl mewn ysbytai lloeren. Cynhelir ysbytai lloeren yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ysbyty lloeren dros dro fydd Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gyda chynlluniau yn eu lle i symud hwn i Ysbyty Athrofaol Llandochau. Bydd ysbytai lloeren yn darparu gofal megis asesiadau cyn llawdriniaeth, ymchwiliadau, mân driniaethau a gofal adferiad.

Dywedodd Dr Dom Hurford, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y sefydliad sy’n cynnal Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru: “Mae’r rhwydwaith yn fenter wych sy’n dod â thimau o dri Bwrdd Iechyd ynghyd i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’n holl gleifion. Trwy ganoli achosion risg uchel a chymhleth, rydym yn dod ag arbenigedd o bob rhan o'r rhanbarth ynghyd i rannu dysgu a gwella gofal ymhellach. Mae adsefydlu lleol hefyd yn allweddol i ad-drefnu gwasanaethau fasgwlaidd, gan sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at ofal cyn llawdriniaeth a gofal dilynol mewn ysbytai lloeren ar draws y rhanbarth. Mae llawer iawn o waith a chynllunio wrth wraidd hyn, ac rydym yn hyderus bod gennym bellach y model cywir gyda’r gefnogaeth gywir i adeiladu gwasanaeth cadarn sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r model prif ganolfan a lloerennau yn cael ei argymell gan Gymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon ar gyfer trefnu gwasanaethau fasgwlaidd, gan sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion. Mae’r model hwn wedi’i roi ar waith yn llwyddiannus ledled y DU.

Dywedodd Jon Boyle, Llywydd Cymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon: “Mae’r gymdeithas yn cefnogi datblygiad rhwydweithiau fasgwlaidd i ddarparu gofal critigol a phrydlon sy’n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion fasgwlaidd.”

Mae’r holl gleifion y mae hyn yn effeithio arnynt ar hyn o bryd wedi cael gwybod, a bydd unrhyw un sy’n derbyn gofal fasgwlaidd yn cael ei ddiweddaru fel rhan o’r broses gofal arferol.

Darllenwch fwy am Eich Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne Ddwyrain Cymru