Byddwch yn ymwybodol bod y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi nifer o rybuddion tywydd melyn ac ambr dros y dyddiau nesaf ar gyfer gwyntoedd cryf, glaw trwm, eira a rhew. Mae'n debygol y bydd y storm, o'r enw Storm Goretti, yn dod ag eira i sawl rhan o Gymru drwy gydol Dydd Iau 8fed Ionawr 2026 a hyd at y nos, ynghyd â rhywfaint o law trwm a gwyntoedd cryfion hefyd.
Cynghorir trigolion i aros yn ddiogel drwy gydol y cyfnod hwn o dywydd eithafol ac i gadw llygad am gymdogion oedrannus ac agored i niwed, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel, yn gynnes ac nad ydynt yn mentro allan yn y tywydd hwn.
Am ragor o wybodaeth am y tywydd, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd: Rhybuddion ambr wedi'u cyhoeddi ar gyfer Storm Goretti - Swyddfa Dywydd