Neidio i'r prif gynnwy

"Roeddwn i wir yn credu fy mod i'n mynd yn wallgof": Taith Janine i gael diagnosis o PMDD

Dydd Iau 16 Ebrill 2026

Mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Anhwylder Dysfforig Cyn-mislif (PMDD), cyfnod sy'n ymroddedig i roi sylw i fath difrifol o syndrom cyn-mislif a all effeithio'n sylweddol ar iechyd meddwl yn yr wythnosau cyn mislif.

I gydnabod y mis pwysig hwn, rydym am rannu stori Janine Ley, gan dynnu sylw at yr heriau o fyw gyda PMDD a'r cryfder sydd ei angen i lywio drwyddo.

Dywedodd Janine, o Gasnewydd: “Chwe blynedd yn ôl, ar ôl genedigaeth fy merch, dechreuais brofi pyliau difrifol o banig gorbryder - rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi ei gael o'r blaen. Cefais fy atgyfeirio at gwnsela a rhoddwyd gwrth-iselyddion imi. Gwellodd pethau, ond nid oeddwn yn teimlo fel fi fy hun.

"Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ystod anawsterau teuluol, dychwelodd fy ngorbryder a gwaethygodd.  Fel llawer o famau, roddais fy hun yn olaf ac ni es at y Meddyg Teulu pan ddylwn i fod wedi mynd. Erbyn Mis Awst, roedd fy iechyd meddwl wedi gwaethygu cymaint nes i mi gael fy nerbyn i ysbyty ar ôl niweidio fy hun. Roeddwn i’n teimlo llawer iawn o gywilydd, ond ar y pryd roedd y meddyliau'n fy llethu ac roedd popeth yn teimlo’n ormod.

"O'r hynny ymlaen, roedd fy mywyd yn cael ei reoli gan gylchoedd misol o orbryder difrifol ac iselder, newidiadau eithafol i fy hwyliau, dicter, meddyliau ymwthiol a syniadau am hunanladdiad. Doedd fy meddyginiaeth ddim yn helpu, roedd fy nghwsg yn anhrefnus, a thynnais yn ôl yn llwyr oddi wrth bopeth yr oeddwn yn ei garu. Roeddwn i wir yn credu fy mod yn mynd yn wallgof."

Dechreuodd Janine, sydd bellach yn 43 oed, sylwi ar batrwm - bob mis, byddai ei hiechyd meddwl yn chwalu, yna'n codi'n fyr am ychydig wythnosau ar ôl i'w fislif gychwyn.

“Dywedais wrth fy meddyg teulu o’r diwedd fod fy meddyliau tywyllaf bob amser yn dod yn union cyn fy mislif. Roedd yn teimlo fel pe bai fy nghorff yn cael ei gymryd drosodd. Dyna pryd y rhoddwyd diagnosis o PMDD i mi (Anhawster Dysfforig cyn y Mislif). Nid oeddwn i erioed wedi clywed amdano o'r blaen, ond yn sydyn roedd popeth yn gwneud synnwyr. Yn aml, fe'i disgrifir fel PMS "ar steroidau", roedd yn egluro blynyddoedd o ddioddef. Roedd darllen amdano fel pe bai rhywun wedi ysgrifennu am fy mywyd. Sylweddolais nad oeddwn yn mynd yn wallgof, roedd hyn yn rhywbeth go iawn."

Mae meddygon yn credu bod y perimenopos wedi gwaethygu symptomau Janine.

Dywedodd: "Mae fy mislif yn anghyson ac yn dod yn aml, ac mae hyn yn gadael ychydig iawn o amser i mi ddod drostynt. Nid yw dulliau atal cenhedlu hormonaidd yn opsiwn i mi, ac er bod opsiynau llawfeddygol wedi'u trafod, rwy'n aros am gyngor arbenigol ar hyn o bryd. Mae byw yn y limbo hwn yn anodd iawn. Er gwaethaf hyn, mae cael diagnosis wedi newid fy mywyd. Mae gwybod gyda beth rwy'n delio wedi helpu i wneud i mi deimlo'n gryfach ac yn fwy sefydlog.”

“Mae fy meddygon teulu, Dr Jones a Dr Templeton yng Nghanolfan Feddygol Westfield ym Malpas, wedi bod yn anhygoel. Mae Dr Templeton wedi bod yn gefn i mi trwy gydol yr amser, a dyw hi erioed wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy niystyru nac ar ben fy hun, hi yw fy nghraig."

Mae Janine bellach wedi sylweddoli ei bod hi’n debygol o fod wedi byw gyda’r cyflwr hwn am y rhan fwyaf o’i hoes, ac mae’n diolch i ymuno â grŵp cymorth PMDD ar-lein am ei helpu i deimlo’n llai unig a rhoi adnoddau gwerthfawr iddi, yn ogystal â’i theulu am eu cefnogaeth.

"Rwyf am ddiolch i fy nheulu a'm ffrindiau, yn enwedig fy ngŵr, am eu hamynedd a'u cariad. Ni allwn wneud hyn hebddoch chi.

"Os gallwn gynnig cyngor i unrhyw un sy'n profi symptomau tebyg, dyma fe: chwiliwch am gymorth. Siaradwch â'ch Meddyg Teulu. Adeiladwch System Gymorth. Mae gofalu am eich hun yn hanfodol, nid yn hunanol.

“Ac yn olaf, rwy’n ceisio cadw fy synnwyr digrifwch. Ac yn fy mywyd nesaf? Rwy’n bendant yn dod yn ôl fel dyn.”