Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn Rownd Derfynol Gwobrau GIG Cymru!

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dathlu ar ôl i bump o'i brosiectau gyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru eleni, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun 15 Awst 2022).

 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cystadlu am y gwobrau canlynol:

Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru

  • Defnyddio cydweithredu a thystiolaeth i gyflawni trawsnewidiad digidol cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y claf ar draws GIG Cymru.

Cyfoethogi llesiant, galluogrwydd ac ymgysylltu’r gweithlu iechyd a gofal

  • Cysylltwyr llesiant yn gwneud gwahaniaeth i gynaliadwyedd y gweithlu.

Cyflwyno gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

  • Diwallu anghenion pobl sy'n byw gyda methiant y galon trwy adsefydlu cardiaidd a hwb methiant y galon cymunedol.

Gweithio'n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector

  • Gwasanaeth Dychwelyd Pwrpasol - BIPAB ac United Welsh.

Cyflwyno iechyd a gofal o werth uwch

  • Gwella canlyniadau i gleifion â Methiant y Galon gyda Ffracsiwn Alldafliad Llai.

 

Dywedodd Glyn Jones, ein Prif Weithredwr Dros Dro: "Rwy'n falch iawn o'r holl waith caled mae ein staff wedi gwneud dros y blwyddyn diwethaf a'n falch eu bod nhw'n cael eu adnabod am eu ymdrechion drwy Wobrau GIG Cymru.

Llongyfarchiadau i pawb sydd wedi'u enwebu ac ar y rhestrau fer. Ry'n ni'n edrych ymlaen i'r gwobrau yn mis Hydref a hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sydd wedi'u rhoi ar y rhestrau fer!"

 

Mae'r Gwobrau'n cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 10 Hydref 2022.

 

Gyda chynifer o geisiadau ysbrydoledig yn cael eu cyflwyno eleni, roedd arbenigwyr y GIG ar y panel beirniadu yn ei chael hi'n anodd iawn llunio rhestr fer o'r 24 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn yr 8 categori gwobrau. Y cam nesaf yw i'r paneli beirniadu ymweld â phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i ddarganfod mwy a gweld drostynt eu hunain y manteision y maent wedi'u cynnig i gleifion.

 

Trefnir Gwobrau GIG Cymru gan Gwelliant Cymru, sef y gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus CymruI gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i Gwobrau GIG Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru