"Rydyn ni'n gwisgo pyjamas felly does dim rhaid i chi!"
Yr wythnos diwethaf, bu staff Ysbyty Ystrad Fawr yn codi ymwybyddiaeth o ddatgyflyru cyhyrol drwy annog cleifion i wisgo a chymryd rhan mewn gweithgareddau – wrth wisgo pyjamas eu hunain!
Bu cleifion yn mwynhau treulio amser i ffwrdd o’r gwely, gyda Ward Oakdale yn cymryd ran mewn gweithgareddau wedi'u teilwra'n benodol i'w hanghenion adsefydlu strôc, a chleifion ar Ward Rhisga yn ennill wobrau am y rhai sydd wedi'u gwisgo orau.
Mae atal datgyflyru yn yr ysbyty yn rhan hanfodol o adferiad claf ac yn helpu i osgoi unrhyw oedi i'w dychwelyd adref. Gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth annog cleifion i godi, gwisgo a pharhau i symud cymaint â phosibl tra yn yr ysbyty.
Dysgwch fwy am atal ddatgyflyru: Codi - Gwisgo - Parhau i Symud - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan