Fel rhan o'u hymrwymiad i iechyd cymunedol, mae Dreigiau Casnewydd yn falch o gyhoeddi y byddant yn cynnal digwyddiad Iechyd Meddwl a Lles ddydd Iau 26ain Medi rhwng 7 a 9pm yng nghartref rygbi Gwent, Rodney Parade. Nod y fenter bwysig hon yw codi ymwybyddiaeth a darparu adnoddau sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles dynion.
Bydd Terry Cobner, Llywydd Undeb Rygbi Cymru a chyn chwaraewr rhyngwladol Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon yn siarad yn y digwyddiad;
“Mae URC yn cydnabod y problemau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles yng Nghymru ac yn cydnabod bod gan yr Undeb ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r rhain.”
Bydd mwy o siaradwyr gwadd eraill gan gynnwys Rhys Thomas, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a llysgennad i Tidy Butt, a fydd yn rhannu ei brofiadau a’i heriau iechyd meddwl ei hun.
Arweinir y digwyddiad gan 4Minds, sefydliad dielw lleol sy’n ymroddedig i gefnogi mentrau iechyd meddwl. Cefnogir y digwyddiad gan Ddreigiau Casnewydd, Tidy Butt a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a chaiff ei ariannu gan Gronfa Arloesi Cyflym Gwent.
“Mae’r digwyddiad hwn yn hanfodol er mwyn cychwyn sgyrsiau am iechyd meddwl o fewn ein cymuned,” meddai Mike Sage, Rheolwr Cymuned Clwb Rygbi’r Dreigiau. “Trwy ddarparu llwyfan ar gyfer trafodaeth a dod â sefydliadau amrywiol ynghyd, rydym yn gobeithio cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o ddynion yn ein hardal.”
Dywedodd Dr Emily Clark, Cofrestrydd Arbenigedd mewn Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Gwyddom y gall dynion brofi iechyd meddwl gwael ar unrhyw gyfnod yn eu bywydau, a gall waethygu os nad ydynt yn gwybod ble i fynd neu gyda phwy i siarad i gael help. Mae dod â chymaint o wahanol sefydliadau lleol at ei gilydd yn Rodney Parade yn golygu y gallwn ni i gyd ddysgu am y gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd yng Ngwent i hybu iechyd corfforol a meddyliol dynion.”
Bydd y digwyddiad yn arddangos dros 30 o sefydliadau o bob rhan o Went sy'n ymroddedig i hybu iechyd meddwl a lles dynion. Bydd y sefydliadau hyn yn darparu gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr i fynychwyr er mwyn eu helpu i gefnogi a hybu eu hiechyd eu hunain, yn ogystal ag iechyd eu hanwyliaid. Gallwch weld y rhestr lawn o sefydliadau ar waelod y dudalen hon.
Mae'r noson yn gyfle i aelodau'r gymuned ddod at ei gilydd, rhannu profiadau, a dysgu am bwysigrwydd iechyd meddwl. Ei nod yw creu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall dynion drafod eu hiechyd meddwl yn agored a dod o hyd i adnoddau a all eu cynorthwyo ar eu llwybr at les.
Dywedodd Sheree Williams, o 4Minds, “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwerth chweil ac mae gweithio ochr yn ochr â Tidy Butt a sefydliadau eraill wedi bod yn wych. Gobeithio y bydd y digwyddiad hwn nid yn unig yn dod â phobl at ei gilydd ond hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr a chefnogaeth i'r rhai sydd ei angen. Rwy’n gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn llwyfan lle gall unigolion rannu eu profiadau, cyfnewid syniadau, a helpu ei gilydd. Trwy feithrin ymdeimlad o gymuned, gallwn rymuso pobl i ddod o hyd i ffordd trwy’r heriau y maent yn eu wynebu yn fwy effeithiol a gwella eu lles cyffredinol. Mae gennym asiantaethau anhygoel yn ein cymuned a bydd dod â nhw at ei gilydd yn amlygu pwysigrwydd cydweithio, gan feithrin ymdeimlad o gyfeillgarwch a fydd yn cryfhau ein hymdrechion ar y cyd."
Bydd y drysau'n agor am 6:30pm ac mae croeso i bawb , cofrestrwch eich presenoldeb yma: https://forms.gle/YTt4ZrnPrvxpSkXKA
ac edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
Bydd y sefydliadau isod yn bresennol, a llawer mwy hefyd!
|
4Minds |
https://4minds.co.uk/ |
|
|
The Ted Senior Foundation |
https://www.thetedseniorfoundation.org/ |
|
|
Andy's Man Club |
https://andysmanclub.co.uk/ |
|
|
Y Samariaid |
https://www.samaritans.org/ |
|
|
Datblygiad chwaraeon Torfaen |
|
|
|
GDAS/ Gwelcol |
https://www.gdas.wales/ |
https://www.gdas.wales/cy/ |
|
Rhwydweithiau Llesiant Integredig |
|
|
|
Cyngor Dinas Casnewydd |
https://www.newport.gov.uk/ |
https://www.casnewydd.gov.uk/ |
|
Cymuned Clwb Rygbi'r Dreigiau |
|
|
|
BIPAB - Helpa Fi i Stopio (Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu) |
https://abuhb.nhs.wales/hospitals/staying-well-and-healthy/help-me-quit/ |
https://bipab.gig.cymru/ysbytai/aros-yn-dda-ac-iach/helpa-fi-i-stopio/ |
|
BALDILOCKS |
https://baldilocks.me |
|
|
Marauders Men's Health |
https://marauders-menshealth.org |
|
|
Beat a Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Arbenigol BIPAB |
|
|
|
Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
|
|
|
Cymdeithas Alzheimer |
https://www.alzheimers.org.uk/ |
|
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
https://abuhb.nhs.wales/ |
https://bipab.gig.cymru/ |
|
Cyfeillion Rygbi Rwanda |
https://friendsofrwandanrugby.com/ |
|
|
Lads & Dads |
https://www.ladsanddads.org |
|
|
GIG - 111#2 |
|
|
|
BIPAB - Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu |
https://abuhb.nhs.wales/hospitals/community-services/mental-health/ |
https://abuhb.nhs.wales/hospitals/community-services/mental-health/ |
|
Tidy Butt |
https://www.tidybutt.co.uk/ |
|
|
Torfaen Talks CIC |
https://www.torfaentalkscic.org.uk/ |
|
|
Samariaid Casnewydd a Gwent |
https://www.samaritans.org/wales/branches/newport/ |
|
|
PAPYRUS Prevention of Young Suicide |
https://www.papyrus-uk.org/ |
|