Dydd Mercher, 1 Hydref 2025
Mae sylwadau cyhoeddus diweddar am awtistiaeth wedi achosi pryder a dryswch. Rydym am dawelu meddyliau ein cymuned:
Nid salwch na chlefyd yw awtistiaeth. Mae'n wahaniaeth niwroddatblygiadol gydol oes. Mae pobl awtistig yn rhan o'n cymunedau, ein teuluoedd, ein gweithlu, a'n Bwrdd Iechyd.
• Nid brechlynnau na pharasetamol sy'n achosi awtistiaeth.
• Nid bai rhieni na mamau yw awtistiaeth.
• Nid rhywbeth i'w "ddileu" yw awtistiaeth.
• Mae pobl awtistig yn haeddu parch, urddas a chynhwysiant.
• Mae ein Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi cryfderau a chyfraniadau ein staff a'n cleifion awtistig.
• Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel, sy'n canolbwyntio ar y person a mynd i'r afael â stigma lle bynnag y byddwn yn dod ar ei draws
Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y person sy'n gwerthfawrogi sgiliau, gwybodaeth ac ymarfer ein staff awtistig. Rydym yn gwybod nad yw'r wyddoniaeth yn cyfateb i unrhyw un o'r honiadau a wnaed am yr hyn sy’n achosi awtistiaeth ond rydym yn cydnabod y gallai’r sylw hwn yn y newyddion achosi pryder. Rydym am sicrhau bob un ohonoch ein bod yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i’r gofal iechyd â ddarperir i'r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu.
I bob person awtistig, ac i'w teuluoedd: rydym yn sefyll ochr yn ochr â chi.