Neidio i'r prif gynnwy

Sesiwn Holi ac Ateb Fyw ar Ysbyty Athrofaol y Faenor

Dydd Mawrth 22 Medi 2020

Hoffech chi wybod mwy am yr hyn y bydd Ysbyty Athrofaol y Faenor yn ei gynnig i drigolion Gwent? Bydd yr holl wasanaethau Gofal Arbenigol a Chritigol yn cael eu canoli yn yr Ysbyty, unwaith y bydd yn agor ganol mis Tachwedd. 

Ymunwch â ni ar ein Tudalen Facebook ar Ddydd Gwener 25 Medi am 11am ar gyfer sesiwn holi ac ateb arall, lle bydd Dr Chris Chick ac Uwch Nyrs, Mandy Hale, yn cynnig golwg unigryw y tu mewn i'r Ysbyty newydd, trafod popeth ynghylch 'Y Faenor' ac ateb eich cwestiynau yn FYW!

A oes unrhyw ardaloedd penodol o'r Ysbyty yr hoffech eu gweld? A oes gennych ymholiad penodol ynghylch pa wasanaethau a gynigir yno?

Danfonwch eich cwestiynau atom yn abhb.enquiries@wales.nhs.uk

Rydym hefyd yn croesawu cyfraniadau drwy gyfrwng y Gymraeg.