Neidio i'r prif gynnwy

Sgwrs Fawr am Sepsis - Hoffech chi gymryd rhan?

Dydd Iau 3ydd Gorffennaf 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ystyried cynnal Sgwrs Fawr am Sepsis i glywed gan bobl sydd â phrofiad personol o'r cyflwr, p'un a ydych chi'n rhywun sydd wedi goroesi sepsis, yn ofalwr i rhywun sydd wedi cael sepsis, neu wedi colli anwylyn i’r cyflwr. 

Gall eich llais ein helpu i wella gofal, cefnogi adferiad, a lleihau niwed sy’n deillio o sepsis yn y dyfodol. 

Cymerwch eiliad, os gwelwch yn dda, i roi gwybod i ni a hoffech fynychu Sgwrs Fawr ar Sepsis. 

https://forms.office.com/e/HTP9xRGXeK