Neidio i'r prif gynnwy

Staff a Chleifion y Bwrdd Iechyd yn Dathlu Diwrnod Shwmae Su'mae 2021

Dydd Gwener 15fed Hydref 2021

Diwrnod Shwmae Su'mae Hapus!

Mae heddiw- 15 Hydref 2021- yn ddathliad blynyddol o'r Iaith Gymraeg yng Nghymru.

Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, felly beth am geisio dechrau pob sgwrs â Shwmae heddiw?

Mae cleifion a staff wedi bod yn dathlu ein Hiaith Gymraeg heddiw.

Mae cleifion yn ein Wardiau Adsefydlu yn Ysbyty Cymunedol y Sir wedi bod yn ymarfer eu sgiliau celf a chrefft trwy wneud addurniadau Shwmae Su'mae ac wedi dysgu rhai geiriau Cymraeg newydd. Mae'r gweithgareddau hyn hefyd o fudd mawr i'w hadferiad.

Llwyddodd ein tîm Cofnodion Iechyd i godi £62 heddiw wrth rhoi £1 i Ddiwrnod Shwmae a gwisgo coch i ddathlu'r Gymraeg. Bydd yr arian a godir yn cael ei roi i'w banc bwyd lleol.

Da iawn i bawb!

Yn y llun uchod: Cleifion yn Ysbyty'r Sir yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Diwrnod Shwmae.

Yn y llun uchod: Staff o'r Adran Cofnodion Iechyd yn gwisgo coch i ddathlu Diwrnod Shwmae