Neidio i'r prif gynnwy

Staff y GIG yn Gwirfoddoli i Gadw Ysbyty Brenhinol Gwent yn Daclus

Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yw’r ysbyty cyntaf yng Nghymru i ddod yn #ArdalDiSbwriel fel rhan o fenter newydd gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Ar Ddydd Mercher 26 Ionawr 2022, gwirfoddolodd nifer o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ynghyd ag aelodau o ddepo Biffa lleol, i dreulio 10 munud o'u hegwyl ginio yn codi sbwriel o amgylch safle Ysbyty Brenhinol Gwent.

Roedd y sesiwn casglu sbwriel yn gyfle i lanhau tiroedd yr ysbyty, a daeth â rhywfaint o awyr iach yr oedd mawr ei angen yn ystod diwrnod prysur.

 

Dywedodd Chris Davies, Rheolwr Amgylcheddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae sbwriel yn broblem gynyddol ar draws ein holl ysbytai. Yn ystod y sesiwn casglu sbwriel, casglodd y tîm o wirfoddolwyr 17 bag o sbwriel, ailgylchu a hyd yn oed sedd car!

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn y sesiwn casglu sbwriel cyntaf hwn- un y gobeithiwn bydd y cyntaf o lawer i ddod! Hoffwn ddiolch yn arbennig i weithwyr y GIG yn Ysbyty Brenhinol Gwent a roddodd rywfaint o’u hamser egwyl haeddiannol i gadw’r amgylchedd yn daclus i bawb ei fwynhau.”

 

Dywedodd Christina Ogden, Rheolwr Cyfrifon Rhanbarthol De Cymru Biffa: “Mae Ysbyty Brenhinol Gwent yn lle gwych, sydd wedi parhau i ddarparu gofal i lawer o bobl leol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Fel eu contractwr gwastraff, mae ein gweithwyr allweddol yn falch o fod yn rhan o’r gwasanaeth hanfodol hwn, gan ailgylchu neu waredu’n ddiogel y gwastraff a gynhyrchir gan wardiau, siopau a ffreuturau’r ysbyty.

“Yn wir, mae cadw ein cymunedau’n lân ac yn daclus wedi bod wrth wraidd i’n busnes ers dros 100 mlynedd.

“Cafodd rhai rhannau o dir yr ysbyty eu nodi fel rhai oedd angen casglu sbwriel, felly roedd grŵp o wirfoddolwyr o ddepo Biffa lleol yn hapus iawn i ymuno â’n ffrindiau o’r Bwrdd Iechyd i dacluso'r ardal fel ei fod yn parhau i fod yn amgylchedd croesawgar i gleifion, staff ac ymwelwyr.

“Roedd cwrdd â rhai wynebau newydd a gweithio fel tîm yn yr awyr iach er lles y gymuned leol yn teimlo’n wych ar gyfer ein lles corfforol a meddyliol.”