Neidio i'r prif gynnwy

"Stopiwch Ysmygu Cyn Ei Bod yn Rhy Hwyr" - Merch a Gollodd Fam i Ganser yr Ysgyfaint yn Cyflwyno Apêl Galonus ar Ddiwrnod Dim Ysmygu

Mae canser yr ysgyfaint yn hawlio mwy o fywydau nag unrhyw fath arall o ganser, gyda thua 90% o achosion canser yr ysgyfaint yn y DU yn gysylltiedig ag ysmygu. Ar gyfartaledd, efallai na fydd hanner y rhai sy'n cael diagnosis yn goroesi y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf.  

Mae Lisa Brock yn annog pobl ledled Gwent i roi'r gorau i ysmygu, gan ddefnyddio ei thorcalon personol wedi iddi golli ei mam i ganser yr ysgyfaint yn ogystal â'i harbenigedd clinigol fel Uwch Ymarferydd Nyrsio yng Ngwent.   

Dywedodd Lisa, “Eich mam yw’r un person rydych chi’n ei ffonio pan fydd popeth yn mynd o chwith. Ni allaf wneud hynny mwyach. Dydy hi ddim yno. Dw i'n ceisio mynd trwy bob dydd hebddi hi. Erbyn iddi gael sgan CT, roedd y canser eisoes wedi datblygu. Gwaelodd dros nos. Doedd hi ddim hyd yn oed yn edrych fel hi ei hun ar y diwedd.”  

Roedd mam Lisa wedi ysmygu'n drwm ers ei harddegau ac roedd yn ymddangos yn iach ar y cyfan nes iddi fethu â gwella o'r hyn a oedd yn ymddangos fel haint ar y frest. Ei neges i'r cyhoedd mewn cyfweliad fideo pwerus yw:  

“Mae eich teulu eisiau atgofion gyda chi, nid atgofion ohonoch chi - Rhowch y gorau i ysmygu heddiw”.  

Gwyliwch ei stori lawn yma: https://youtu.be/jGk_uYJNCVs

 

Mae Lisa bellach yn defnyddio stori ei mam yn ei hymarfer clinigol gyda thrigolion eraill Gwent:   

“Bob dydd rwy'n dweud wrth fy nghleifion: peidiwch â gadael i hyn ddigwydd i chi. Meddyliwch am eich partner, eich plant, eich wyrion a’ch wyresau. Chaiff fy mam fyth gwrdd â'i rhai hi. Mae hynny wedi cael ei gymryd i ffwrdd, dim ond oherwydd ysmygu. Dydy e ddim werth e.”    

Dywedodd Dr. Matt Brouns, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Anadlol:    

“Ni fydd hanner y bobl rwy’n rhoi diagnosis o ganser yr ysgyfaint iddynt yma ymhen blwyddyn. Gellir atal y rhan fwyaf o'r achosion hyn. Rwy'n gweld y gofid a'r tristwch yn wynebau pobl bob dydd. Os ydych chi'n ysmygu, peidiwch ag aros am symptomau. Mae cymorth ar gael a gallwch roi’r gorau i ysmygu gyda chymorth am ddim.”