Neidio i'r prif gynnwy

Stori Canser Elenids

Ddeng mlynedd yn ôl, yn fuan ar ôl ei phen-blwydd yn 21 oed, dechreuodd Elenid ei thaith ganser ar gyfer Lymphoma Hodgkin's cam 4.

Cafodd ei symptomau eu hadnabod gan ei meddyg teulu, yn dilyn pelydr-X i ddeall pam nad oedd ei pheswch yn diflannu ar ôl triniaeth ar gyfer haint ar y frest.

Cafodd Elenid driniaeth yn uned Teenage Cancer Trust (TCT) yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl ifanc 14–25 oed, ac roedd yn mynd yno bob pythefnos ar gyfer cemotherapi am 6 mis, dan ofal ei Hymgynghorydd, Dr Clare Rowntree.

Roedd cael triniaeth yn TCT yn golygu bod Elenid a'i theulu yn gallu adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth nid yn unig gan staff yr uned ond gan gleifion ifanc eraill a'u teuluoedd o bob rhan o Dde Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2025, bydd Elenid yn nodi 10 mlynedd heb symptomau canser. Mae ei dathliadau bob blwyddyn yn canolbwyntio ar sut mae hi wedi llwyddo i wneud popeth yr oedd hi'n dychmygu y byddai'n ei wneud gyda’i bywyd cyn ei diagnosis canser.

Priododd AJ a chafodd ddau blentyn hyfryd. Fe wnaethon nhw brynu tŷ ac maent wedi bod ar wyliau anhygoel.

Er iddi orfod gohirio ei chwrs TAR am flwyddyn er mwyn cwblhau ei thriniaeth, aeth yn ôl i'r brifysgol ddeufis wedi iddi orffen ei thriniaeth i orffen ei hyfforddiant i ddod yn athrawes a dechreuodd yrfa wych fel athrawes ysgol gynradd.

Gan fyfyrio ar ei thaith canser, mae ganddi'r cyngor canlynol i eraill.

"Mae mor bwysig fy mod i'n byw ac nid yn goroesi"

Cymerwch eich amser i wella. Peidiwch â cheisio anwybyddu'r hyn sydd newydd ddigwydd. Gwrandewch ar eich corff.

Derbyniwch therapi, gofynnwch am y gefnogaeth a defnyddiwch y cymorth a gynigir gan eich darparwyr gofal iechyd a'r elusennau. Mae bod angen cefnogaeth ymhell ar ôl i'ch triniaeth ddod i ben yn iawn."

"Mae'r blinder yn rhywbeth doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl. Dechreuais fy TAR yn llawn amser 2 fis yn unig ar ôl y driniaeth, ac roedd hyn yn anodd.  Roeddwn i eisiau bwrw mlaen gyda fy mywyd, ac fe ges i drafferth, ond doeddwn i ddim eisiau colli mwy o arian a mwy o amser wrth ohirio am flwyddyn arall, roeddwn i eisiau dechrau fy ngyrfa."

"Cadwch yn actif a bwyta'n iach, manteisiwch ar bob cyfle i gael profion sgrinio canser, mae profion ceg y groth a mamogramau mor bwysig a sicrhewch bod ffonio eich meddyg teulu i gael apwyntiad yn flaenoriaeth i chi os ydych chi'n poeni."

Gwrandewch ar eich doctoriaid a'ch nyrsys. Roedd fy meddyg teulu yn gwbl bendant bod mynychu fy apwyntiad diagnosteg cyntaf ar frys y diwrnod wedyn yn bwysicach o lawer na mynd i Lundain am ychydig ddyddiau, sef yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud yn 21 oed."

"Ni allaf or-bwysleisio ddigon pa mor anhygoel oedd fy ngofal a pa mor anhygoel yw staff y GIG, er bod diffyg adnoddau yn y system. Y staff ar fy nhaith o’r Meddyg Teulu a’r Ymgynghorydd y Frest a’m hatgyfeiriodd, i’r nyrsys ar y ward ble arhosais yn dilyn fy llawdriniaeth a wnaeth drefniadau i mi gael fy ystafell fy hun gan fy mod yn llawer iau na’r holl gleifion eraill ar y ward gyffredinol, i’m ymgynghorwyr a’r tîm yn y Teenage Cancer Trust. "

Dewisodd Elenid hefyd gymryd rhan mewn treial clinigol yn ystod ei thriniaeth; "Rhoddodd y treial clinigol ymdeimlad i mi o wneud rhywbeth da gyda sefyllfa wael, a rhoi diben i hyn.”

"Diben fy mhrawf oedd edrych ar driniaeth a allai fod yn fwy caredig i'r corff, gyda sgil-effeithiau llai annymunol a gwell canlyniadau. Roedd yn ddeng mlynedd i olrhain canlyniadau tymor hwy, megis sut roedd fy nghorff yn ymdopi â beichiogrwydd ac ati."

"Roedd bod yn rhan o'r treial yn rhoi cymaint o dawelwch meddwl i mi, cefais sganiau CT a gwiriadau ychwanegol, ac roedd hyn yn tawelu’r meddwl unwaith yr oeddwn wedi dod dros y gorbryder sy’n ymwneud â phrofion!”

"Cefais fy nyrs treialon clinigol arbennig Katja Williams, a oedd yno i mi drwy'r amser, trwy driniaeth a thrwy'r 10 mlynedd hyn. Byddaf yn cael fy apwyntiad dilynol olaf gyda hi yn yr haf.  Mae hi wedi rhoi cysondeb gofal i mi ac wedi bod yn gyswllt pan oeddwn i'n poeni."

"Mae hon yn garreg filltir mor bwysig, i mi a fy nheulu, ac ar gyfer ymchwil canser."