Mae David, 47, yn gweithio fel technegydd gweithrediadau mewn amgylchedd cynhyrchu. Mae’n brofiadol, mae'n ymwybodol o ddiogelwch ac nid yw erioed wedi cael problem gyda’i olwg.
Un dydd Gwener yn y gwaith, roedd David yn agor pibell ar beiriant pan saethodd sblash o caustic soda yn ôl at ei wyneb. Er ei fod yn gwisgo sbectol ddiogelwch, llithrodd drop bychan o dan y sbectol a mynd i mewn i'w lygad. Gan wybod pa mor beryglus y gallai'r cemegyn hwn fod, dilynodd gyfarwyddyd diogelwch y gweithle ar unwaith, gan olchi ei wyneb a'i lygad yn drylwyr gyda diphoterine, toddiant niwtraleiddio.
Er ei fod wedi gwneud popeth yn iawn, roedd David yn dal i boeni. Roedd ei hyfforddiant diogelwch wedi ei wneud yn ymwybodol iawn o ba mor ddifrifol y gall anafiadau cemegol fod.
Y diwrnod wedyn, sylwodd David ar smotyn coch bach yng nghornel ei lygad. Fel rhywun nad oedd erioed wedi bod angen gofal y llygad o'r blaen, roedd ymweld â'r optegydd yn teimlo'n ddieithr, ond penderfynodd fynd i wirio ei lygad. Ar ei ymweliad cyntaf, rhoddwyd diferion iro iddo ac fe’i rhybuddwyd i geisio cymorth pellach os oedd ei symptomau'n gwaethygu.
Erbyn y dydd Llun, roedd ei lygad wedi gwaethygu’n sylweddol, roedd y cochni wedi ymledu ar draws y llygad cyfan. Dechreuodd David boeni mwy ac roedd yn ofni y byddai’n colli ei olwg yn y lygad honno. Cafodd ei hun yn chwilio ar-lein am atebion, gan boeni a fyddai'n dal i allu gyrru pe byddai hynny’n digwydd.
Dyna pryd yr aeth David i weld optometrydd presgripsiynu yn ei optegydd lleol yn Nghasnewydd. O'r eiliad y cyrhaeddodd, cafodd dawelwch meddwl. Cafodd archwiliad llygad manwl a chyngor manwl, a chymerwyd amser i esbonio beth oedd yn digwydd a pha driniaeth oedd ei hangen. Roedd arbenigedd yr optomterydd a’i sicrwydd digyffro yn gwneud gwahaniaeth mawr ar adeg pan oedd David yn teimlo'n wirioneddol bryderus.
Rhoddwyd diferion llygad arbenigol i David a chafodd apwyntiadau dilynol rheolaidd eu trefnu er mwyn monitro ei adferiad yn agos. Dau fis wedyn, mae ei lygad yn llawer gwell, ac mae'n dal i ddefnyddio'r diferion ac yn mynychu'r apwyntiadau dilynol i sicrhau bod ei olwg yn ddiogel.
Arweiniodd yr profiad hefyd at newidiadau positif yn y gwaith. Mae gorchuddion wyneb llawn wedi'u cyflwyno nawr, ac mae gorsaf diphoterine newydd wedi'i gosod yn union wrth ymyl ardal waith David, gan roi mwy o dawelwch meddwl iddo.
Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd David fod y gofal a dderbyniodd yn rhagorol:
“Roedd cael mynediad i'r lefel hon o driniaeth ac arbenigedd yn fy optegydd lleol yn wych. Roedden nhw'n wirioneddol wybodus, yn tawelu meddwl ac yn fanwl.”
Mae stori David yn dangos sut mae optegwyr lleol yn chwarae rôl hanfodol mewn gofal y llygad brys, gan gynnig mynediad cyflym i asesiadau, triniaeth a gofal dilynol arbenigol, tra'n cadw'r gofal yn agos at gartref pan mae ei angen fwyaf.
Mae apwyntiadau brys ar gyfer y llygad mewn optegwyr lleol yn rhad ac am ddim ar y GIG, ac nid oes angen i chi fynd i'r Adran Argyfwng nac i'ch GP yn gyntaf. Trwy ffonio'r optegydd cyn mynychu, rydych chi'n cael eich brysbennu dros y ffôn i sicrhau eich bod yn cael eich gweld gan y gweithiwr proffesiynol cywir ar yr amser cywir, gan eich helpu i gael gofal arbenigol cyflym pan fo angen.
Am fwy o wybodaeth ewch i: Optegydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan