Fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Sepsis, rydyn ni'n rhannu stori Rachel i dynnu sylw at ba mor gyflym y gall sepsis ddatblygu a pham mae adnabod yr arwyddion yn gynnar mor bwysig. Gadawodd yr hyn a ddechreuodd fel haint arferol Rachel yn brwydro am ei bywyd yn yr uned Gofal Dwys. Diolch i gamau cyflym ei gŵr a'r gofal meddygol a gafodd, mae Rachel bellach yn gwella.
Roedd Rachel, 46, o Lyn Ebwy, yn heini, yn actif ac yn anaml yn sâl. Roedd hi’n gweithio shifftiau 12 awr fel gweithiwr cymorth ac roedd yn mwynhau bywyd teuluol prysur gyda'i gŵr Tim a'u pedwar mab 25,24 ac 19 oed a’u merch 20 oed
Ym mis Mehefin, trodd yr hyn a oedd yn ymddangos yn salwch arferol yn rhywbeth a oedd yn bygwth ei bywyd.
"Roeddwn i wedi bod i ffwrdd yng Nghaer am ychydig ddyddiau a dechreuais deimlo'n sâl gyda llygaid wedi chwyddo a beth oedd yn teimlo fel cur pen sinws," meddai Rachel.
"Ar ôl i mi gyrraedd adref, es i weld fy meddyg teulu a chael triniaeth am haint sinws gyda gwrthfiotigau."
Y diwrnod canlynol, gwaethygodd cyflwr Rachel a dechreuodd fod yn sâl. Gan ei bod yn ddydd Sadwrn, cysylltodd â GIG 111 a chafodd ei chyfeirio at feddyg teulu y tu allan i oriau. Roedd y meddyg teulu yn amau ei bod, o bosib, yn cael ymateb i'r gwrthfiotigau a rhoddodd feddyginiaeth gwrth-salwch iddi, ynghyd â chwrs gwahanol o wrthfiotigau.
Ond parhaodd ei chyflwr i waethygu.
"Erbyn dydd Sul, roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy. Doeddwn i ddim yn gallu dod oddi ar y soffa, roedd gen i dymheredd ac roeddwn i'n ddryslyd. Dywedodd fy ngŵr wrthyf fy mod wedi cael ffit. Fe wnaeth fy rhoi yn syth yn y car a mynd â mi i Ysbyty Athrofaol y Faenor."
Pan gyrhaeddodd Rachel yr Adran Achosion Brys, sylweddolodd staff yn gyflym ei bod hi'n ddifrifol wael.
"Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, fe wnes i lewygu. Fe wnaethon nhw wirio fy arsylwadau yn gyflym a mynd â mi yn syth i'r Uned Dadebru. Fe wnaethon nhw gymryd profion gwaed, dechrau hylifau mewnwythiennol a rhoi gwrthfiotigau i mi. Roedd popeth yn aneglur.
"Rwy'n cofio cael gwybod fy mod i'n sgorio 10 ar y sgôr rhybuddio sy’n yn rhybuddio am risg uchel o sepsis. Roeddwn i wedi clywed am sepsis ond doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd e."
Esboniodd meddygon i ŵr Rachel bod dod â hi i'r ysbyty yn gyflym wedi bod yn hanfodol.
"Fe wnaethon nhw ddweud wrtho, pe na bai wedi dod â mi i mewn pan wnaeth e, y gallai pethau wedi bod yn wahanol iawn."
Cafodd Rachel ddiagnosis o haint ar y frest i ddechrau a chafodd ei derbyn i ward anadlol, lle derbyniodd ocsigen a thriniaeth barhaus. Fodd bynnag, er gwaethaf mewnbwn gan dimau arbenigol, roedd meddygon yn cael trafferth dod o hyd i ffynhonnell yr haint a oedd wedi achosi ei sepsis.
"Roedd fy nghyflwr yn gwaethygu," meddai. "Yn y pen draw, cefais fy nhrosglwyddo i'r Uned Gofal Dwys."
Ar 15 Mehefin, wrth i Rachel barhau i waethygu er gwaethaf triniaeth ddwys, cafodd ei rhoi mewn coma wedi’i ysgogi.
"Cafodd fy nheulu eu galw i ddweud nos da cyn i mi fynd i gysgu." Roedd yn gyfnod brawychus iawn."
Trwy gydol ei harhosiad, cefnogwyd Rachel a'i theulu gan y tîm Gofal Dwys.
"Roedd y staff yn anhygoel. Fe wnaethon nhw esbonio popeth i'm teulu, ateb eu holl gwestiynau a'u cefnogi drwy'r gydol yr amser.
"Wir, ni allaf ganmol y bobl a oedd yn gofalu amdanaf ddigon. Hebddyn nhw, fyddwn i ddim yma heddiw."
Diolch byth, dechreuodd y driniaeth weithio a daeth Rachel allan o'r coma ar 22 Mehefin.
"Fe wnes i ddeffro'n ddryslyd, roeddwn i wedi bod yn rhith-weld a doeddwn i ddim yn gwybod ble roeddwn i. Roeddwn i'n wirioneddol yn meddwl fy mod wedi cael fy herwgipio."
Er bod Rachel adref bellach, mae ei hadferiad yn parhau.
"Mae gen i niwl yr ymennydd o hyd ac nid yw fy symudedd yn wych. Rwy'n cael trafferth sefyll, mae angen baglau arnaf i gerdded ac rwy'n cael ffisiotherapi. Mae'n rhwystredig oherwydd rydw i wedi bod mor actif erioed ac fi yw’r person sydd wastad yn gofalu am bawb arall."
Dywed Rachel fod y profiad wedi bod yn arbennig o anodd i'w theulu, yn enwedig ei mab hynaf, sy'n awtistig.
"Mae fy ngŵr a'm pedwar o blant i gyd wedi bod yn anhygoel. Rwy'n arbennig o agos at fy merch, ac mae hi wedi bod yn ffynhonnell enfawr o gefnogaeth. Roedd e’n gyfnod hynod heriol i fy mab hynaf, sy'n awtistig. Ers dod adref, mae wedi mynnu gwneud Weetabix i mi bob bore oherwydd dyna beth oeddwn i'n ei gael i frecwast yn yr ysbyty. Dyma ei ffordd o edrych ar fy ôl."
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, mae Rachel eisiau annog eraill i ddysgu beth yw arwyddion sepsis a cheisio help os ydyn nhw'n poeni.
"Doeddwn i erioed wedi clywed am sepsis a doeddwn i ddim yn gwybod pa symptomau i edrych allan amdanynt.
Pe na bai fy ngŵr wedi sylweddoli pa mor wael oeddwn i ac wedi mynd â mi i'r ysbyty pan wnaeth e, ac oni bai am y gofal eithriadol a gefais i, fyddwn i ddim yma heddiw."
Mae sepsis yn argyfwng meddygol sy'n peryglu bywyd. Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod symptomau haint difrifol neu os ydynt yn dod yn fwy gwael yn gyflym, ceisiwch gymorth meddygol brys ar unwaith.
Mae'r symptomau'n cynnwys:
S - Slurred speech - Lleferydd aneglur neu ddryswch
E - Extreme shivering or muscle pain - Cryndod eithafol neu boen yn y cyhyrau
P- Passing no urine (in a day) - Pasio dim wrin (mewn diwrnod)
S- Severe breathlessness - Diffyg anadl difrifol
I - It feels like you’re going to die - Teimlo eich bod chi am farw
S - Skin mottled or discoloured - Croen brith neu liw anarferol
I ddarganfod mwy am Sepsis ewch i: Sepsis - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan