Gall y gaeaf fod yn anodd ar eich iechyd, a gall dod o hyd i'r gofal cywir deimlo'n llethol. Mae GIG 111 Cymru yn cynnig cyngor ymarferol ar beth i'w wneud nesaf a gall eich tywys at y gwasanaeth mwyaf priodol, boed hynny'n hunan-ofal gartref, fferyllydd, meddyg teulu, neu ofal brys.
GIG 111 Cymru yw'r ffordd rhad ac am ddim o gysylltu â'r GIG yng Nghymru o linellau tir a ffonau symudol, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Y gaeaf hwn, nod GIG 111 Cymru yw ei gwneud yn haws i bobl gynllunio ymlaen llaw, rheoli mân salwch, a chael gafael ar y gofal cywir yn gyflym ac yn ddiogel.
Gallwch gyrchu'r gwasanaeth ar-lein yn www.111.wales.nhs.uk neu drwy ffonio 111. Mae'n darparu cyngor gofal iechyd arbenigol ac yn eich helpu i ddod o hyd i'r gofal cywir pan fydd ei angen arnoch.
Mae GIG 111 Cymru yn annog y cyhoedd i:
Mae gwefan GIG 111 Cymru hefyd yn cynnig cyngor arbenigol ar wahanol afiechydon a chyflyrau, ynghyd ag offer hunangymorth gan gynnwys Chatbot rhithwir (ALBOT) i ateb cwestiynau a'ch tywys i'r gofal cywir.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar-lein, gallwch ffonio 111 am gyngor arbenigol.
Gall defnyddio GIG 111 Cymru wneud gwahaniaeth mawr. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig eich helpu i osgoi teithiau diangen at Damweiniau ac Achosion Brys neu'ch Meddyg Teulu, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen prysur drwy eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Er enghraifft, mae fferyllwyr yn darparu ystod o wasanaethau o dan y cynllun anhwylderau cyffredin sy'n golygu y gallant asesu a rhagnodi'r driniaeth briodol ar gyfer llawer o afiechydon cyffredin, sy'n golygu nad oes angen apwyntiad meddyg teulu bob amser.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl y gaeaf hwn ac yn ansicr beth i'w wneud neu ble i fynd, ewch i www.111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111.