Neidio i'r prif gynnwy

Syrprês Gylactig ar Ward y Plant

Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025

Ar Ddydd Sadwrn 20fed o Ragfyr, trawsnewidiwyd Ward y Plant yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn alaeth bell, bell i ffwrdd diolch i'r Imperial Welsh Squad Saber Guild anhygoel – Naboo Temple a'r gwirfoddolwyr gwych o Fit For Your Princess!

Cafodd plant, teuluoedd a staff ddiwrnod bythgofiadwy yn llawn arwyr Star Wars, Tywysogesau Disney, a hyd yn oed y Grinch drwg!

Diolch yn fawr iawn i Drafnidiaeth Cymru am roi’r anrhegion gwych a ddaeth â chynifer o wenau.

Roedd yn brofiad wirioneddol hudol – chwerthin, llawenydd, ac atgofion i bara am oes.

Diolch i bawb a wnaeth y diwrnod hwn mor arbennig!