Neidio i'r prif gynnwy

Tarfu Dros Dro ar Fynediad yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Noder, er mwyn cwblhau'r gwaith ar estyniad yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, y bydd gwaith i osod canopi yn digwydd ar y dyddiadau canlynol yr wythnos nesaf:

  • Dydd Llun 29ain o Fedi 2025 rhwng 08:00 a 18:00
  • Dydd Mawrth 30ain o Fedi 2025Dydd Sadwrn 4ydd o Hydref 2025 rhwng 06:00 a 18:00

Yn ystod yr amser hwn, bydd prif fynedfa'r Adran Achosion Brys ar gau am resymau diogelwch a bydd cleifion ac ymwelwyr yn cael eu hailgyfeirio i fynd i mewn trwy fynedfa arall.

Bydd staff diogelwch ychwanegol ar y safle i arwain a chefnogi cleifion a staff yn ystod yr amser hwn.

Hoffwn eich sicrhau y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau'r aflonyddwch a'r anghyfleustra i gleifion a staff. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol hyn.