Hoffem roi gwybod i chi am rywfaint o darfu dros dro ar ein llinellau ffôn yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw brys a hanfodol i'n systemau ffôn, efallai y bydd ymyrraeth i alwadau sy'n dod i mewn rhwng 9:00yb ac 11:00yb ar Ddydd Iau 23ain Ebrill.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n bosib y bydd galwadau'n cael eu torri yn annisgwyl. Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch ein ffonio ni'n ôl.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.