Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Adferiad Trwy Chwaraeon yn Ennill Gwobr Gweithiwr Cefnogi Nyrsio yng Ngwobrau Nyrsio'r RCN!

Dydd Gwener 7 Hydref 2022

Llongyfarchiadau i Kevin Hale a Dorian Wood o’r tîm Adferiad Trwy Chwaraeon ar eu buddugoliaeth yng Ngwobrau Nyrsio’r RCN yng nghategori'r Gweithiwr Cefnogi Nyrsio!

Mae Kevin a Dorian yn mynd i’r afael ag unigrwydd a gwella iechyd corfforol gyda’u clwb chwaraeon hollgynhwysol ar gyfer cleifion â salwch meddwl.

Ymhlith y mentrau yn eu grŵp cymorth, mae carfan bêl-droed a chlwb rygbi cerdded cyntaf erioed yng Nghymru. Mynychir y chwaraeon gan gleifion fforensig, cleifion tîm cymunedol a’r rhai y gofelir amdanynt yn y sector preifat, gan eu helpu i fagu hyder a rheoli eu pwysau – rhywbeth sy’n aml yn anodd i gleifion sy’n defnyddio rhai meddyginiaethau.

Gan weithio gyda chlybiau chwaraeon lleol gan gynnwys Clwb Rygbi Dreigiau Gwent a Chlwb Pêl-droed Tref y Fenni, mae Kevin a Dorian wedi meithrin cysylltiadau â thimau Oedolion Hŷn ac Anableddau Dysgu ac wedi sicrhau citiau a roddwyd i gleifion.

'Mae'r wobr hon yn golygu cymaint i ni gan ein bod wedi gweithio'n galed i ddarparu rhaglen chwaraeon sy'n hygyrch i bawb, nid dim ond pobl ag iechyd meddwl gwael,' meddai Kevin Hale, Ymarferydd Cynorthwyol.

'Bydd yn helpu i roi terfyn ar y stigma sydd weithiau'n gysylltiedig â phobl â phroblemau iechyd meddwl.

'Mae'r tîm cyfan mewn Seiciatreg Fforensig yn gefnogol i'n rhaglen Adferiad Trwy Chwaraeon, felly mae'r clod hwn yn wych i bawb.'

I ddarganfod mwy am Wobrau Nyrsio’r RCN, ewch i: https://rcni.com/nurse-awards/