Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Sir wedi'i enwi fel Rownd Derfynol Gwobr Coleg Brenhinol y Nyrsio

Dydd Iau 24 Mehefin 2021

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y tîm yn Ysbyty Cymunedol y Sir wedi cael eu henwi yn y rownd derfynol yng nghategori Nyrsio Pobl Hŷn Gwobrau Coleg Brenhinol y Nyrsio am eu cynllun partneriaeth rhwng cenedlaethau gydag Ysgol Gynradd leol.

Mae'r cynllun 'Gwên mewn Bag' newydd yn cynnig ffordd arall o ryngweithio rhwng cleifion Gofal yr Henoed a phlant ysgol lleol, tra bod Pandemig Covid-19 yn parhau i atal rhyngweithio go iawn rhyngddynt.

Mae'r cynllun o fudd i gleifion a phlant, gan fod y ddwy genhedlaeth yn gallu defnyddio eu sgiliau creadigol i gynhyrchu eitemau ac adnoddau ar gyfer y grŵp oedran arall.

Isod, mae'r Uwch Nyrs, Jo Hook, yn esbonio sut y mae'r bartneriaeth yn gweithio.. 

Pob lwc iddynt yn rownd derfynol y gwobrau yn hwyrach yn y flwyddyn!