Neidio i'r prif gynnwy

Tîm y Bledren a'r Coluddyn yn Dringo Pen-y-Fan gyda Chlaf, i Godi Arian ac Ymwybyddiaeth

Dydd Llun 23 Mehefin 2025

Ddydd Sadwrn 31 Mai 2025, ymunodd grŵp o'n nyrsys o Dîm Y Bledren a'r Coluddyn â'r claf, Niall McCann (dde) i ddringo 'Pen y Fan', y copa uchaf yn Ne Cymru, i godi ymwybyddiaeth a chwalu'r stigma ynghylch gofal ymataliaeth.

Yn 2016, dioddefodd Niall - anturiaethwr profiadol a chadwraethwr - anaf difrifol i'r asgwrn cefn mewn damwain gwib-hedfan (speedflying). Chwalodd hyn ei freuddwydion o ddychwelyd i'r mynyddoedd. Ond gyda phenderfyniad, gwaith adsefydlu, a chefnogaeth tîm y Bledren a’r Coluddyn ymroddedig, yn erbyn pob disgwyl, mae nawr, 9 mlynedd yn ddiweddarach, yn paratoi i ddringo Mynydd Asgard yn yr Arctig, copa a enwyd gan ei dad-cu, y fforiwr Cyrnol Patrick Baird.

Gall anymataliaeth effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw gam o fywyd. Gall achosi gofid a gwneud i rhywun deimlo’n ynysig. Mae hefyd yn cael effaith ar urddas, annibyniaeth a lles cyffredinol. Mae Tîm Y Bledren a’r Coluddyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn darparu cymorth sy'n newid bywyd, dan arweiniad nyrsys i bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn - gan eu helpu i reoli bywyd dydd i ddydd gydag arbenigedd, tosturi ac urddas.

Gwasanaeth y bledren a'r coluddyn - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan