Tîm yr Adran Achosion Brys yn ennill achrediad Efydd ar gyfer newidiadau ymarferol sy'n lleihau gwastraff

Cyhoeddwyd ar 14 Medi 2026

Mae'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi derbyn achrediad Efydd drwy raglen GreenED y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM), sy'n cydnabod ymdrechion y tîm i leihau gwastraff, lleihau allyriadau carbon ac ymgorffori arferion mwy cynaliadwy mewn gofal o ddydd i ddydd.

Mae GreenED yn fenter RCEM sy'n helpu adrannau brys i fesur a lleihau eu heffaith amgylcheddol trwy gamau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Mae'r rhaglen yn cefnogi adrannau i gyfrannu at dargedau sero net cenedlaethol, creu arbedion ariannol a gwella gofal cleifion.

Mae'r achrediad yn ganlyniad ymdrech tîm dan arweiniad y Meddygon Ymgynghorol Helen Sharkey a Michael Murphy, gyda chydweithwyr ar draws yr adran yn cyflwyno nifer o newidiadau ymarferol gyda'r nod o leihau gwastraff a gwneud gwell defnydd o adnoddau.

Ymhlith y mentrau a gyflwynwyd, adolygodd staff gynhyrchion a ddefnyddir yn ystod gweithdrefnau clinigol arferol a chyflwynwyd Hexiprep fel dewis arall yn hytrach na Chlorprep ar gyfer venepuncture a gosod canwla. Yn ogystal â lleihau faint o wastraff miniog a gynhyrchir, mae'r newid yn helpu i leihau'r effaith amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwaredu'r gwastraff clinigol.

Mae gwella arferion ailgylchu hefyd wedi bod yn ffocws mawr. Ymgymerodd meddyg preswyl â phrosiect a oedd yn archwilio faint a mathau o wastraff a gynhyrchir yn ystafell staff yr adran, gan nodi cyfleoedd i wella gwahanu gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu. Gweithiodd y tîm gyda chydweithwyr Cyfleusterau i annog trefniadau ailgylchu gwell a chroesawodd gyflwyno biniau ailgylchu gorfodol ar draws safle yr ysbyty.

Mae tîm fferylliaeth yr adran hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi presgripsiynu mwy cynaliadwy. Mae hyn wedi cynnwys hyrwyddo'r defnydd o anadlwyr powdr sych lle bo hynny'n briodol yn glinigol ac adolygu cyfleoedd i leihau'r defnydd o feddyginiaethau mewnwythiennol, gan gynnwys paracetamol mewnwythiennol, pan mae modd defnyddio dewisiadau amgen trwy’r geg yn ddiogel ac yn effeithiol.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Helen Sharkey:

"Mae'r wobr hon yn ymdrech tîm go iawn. Rydym wedi cael cydweithwyr o bob rhan o'r adran yn dod ymlaen gyda syniadau ac yn edrych ar sut y gallwn wneud pethau'n wahanol, boed hynny'n leihau gwastraff, gwella ailgylchu neu wneud dewisiadau mwy cynaliadwy yn ein hymarfer o ddydd i ddydd."

 

“Rydym yn falch bod ein tîm, gan weithio mewn cydweithrediad ag RCEM Green ED, wedi gweithredu newidiadau syml sy’n lleihau gwastraff ac yn gwneud gwell defnydd o adnoddau, gan ein helpu i ddarparu gofal mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae sicrhau achrediad Efydd i’n Hadran Achosion Brys yn garreg filltir bwysig ac yn rhoi llwyfan inni adeiladu arno yn y blynyddoedd i ddod.”

 

Dywedodd Dr Ian Higginson, Llywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys:

"Llongyfarchiadau mawr i gydweithwyr yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, sydd wedi derbyn achrediad Efydd trwy raglen GreenED RCEM. Yr haf hwn, mewn rhai rhannau o'r DU ac Iwerddon rydym wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith y gall newid hinsawdd a wnaed gan ddyn ei chael.

"Fel clinigwyr Meddygaeth Frys, rydyn ni'n gweld sut mae hyn yn effeithio ar ein cleifion ac felly mae'n fy llenwi â gobaith bod cydweithwyr ledled y byd yn cymryd materion i'w dwylo eu hunain. Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn bwysicach nawr nag erioed.

"Rydyn ni, fel Coleg, yn falch o gefnogi clinigwyr i chwarae rhan ac mae'r wobr hon yn adlewyrchu gwaith caled ac arloesedd y tîm sydd wedi gweithio i leihau allyriadau, a gwastraff, gan arbed arian i'w hadrannau a gwella gofal cleifion yn y pen draw."