Rydym yn hynod falch o rannu y bydd yr Athro Tracy Daszkiewicz, ein Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, yn feirniad gwadd ar bennod yr wythnos hon o Great British Menu! Bydd y rhaglen ar yr awyr nos Iau am 8pm, bydd yn dod â’i phrofiad a’i hangerdd at y bwrdd wrth i gogyddion o’r radd flaenaf gystadlu’n frwd a chreu prydau sy’n dathlu’r gorau sydd gan Brydain i’w gynnig o ran coginio.
Eleni mae’r beirniadu rhanbarthol ar y rhaglen yn cael ei wneud gan ‘Arwyr Lleol’ – Yn dilyn llwyddiant Tracy ar lefel byd eang fel Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn Wiltshire, chwaraeodd hi a’i thîm ran allweddol wrth atal lledaeniad y gwenwyn Novichock yn Sailsbury ym mis Mawrth 2018, fe’i dewiswyd fel beirniad ar gyfer Great British Menu Rhanbarth y De Orllewin.
Peidiwch â methu’r bennod gyffrous hon- pwy fydd yn creu argraff ar yr Athro Daszkiewicz a’r panel o feirniaid? Gwyliwch ac fe gewch wybod! 🔥👨🍳 Methu aros? Gallwch ei ffrydio nawr