Dydd Llun 13 Medi 2022
Yn sgil cadarnhad y bydd Gŵyl Banc i nodi angladd talaith y Frenhines, mae'r Bwrdd Iechyd yn gohirio pob apwyntiad a chlinig sydd wedi'u cynllunio Ddydd Llun, Medi 19.
Fodd bynnag, efallai y cysylltir â rhai cleifion oherwydd brys eu hapwyntiad i barhau os cytunir ar hynny gyda chleifion a'r timau.
Bydd y Bwrdd Iechyd mewn cysylltiad â’r holl gleifion y mae’r cyhoeddiad hwn yn effeithio arnynt i wneud trefniadau eraill ar gyfer eu gofal.
Bydd meddygfeydd teulu a’r rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol ar gau ar y diwrnod, a byddwn yn annog trigolion i archebu presgripsiynau amlroddadwy yr wythnos hon.
Bydd ein gwasanaethau brys a gofal brys yn parhau ar Ŵyl y Banc. Bydd yr Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Ystrad Fawr ac Ysbyty Brenhinol Gwent i gyd ar agor, ond bydd yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Aneurin Bevan yn cau'n unol â threfniadau gŵyl y banc arferol.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan yr amhariad anochel hwn ar ein gwasanaethau.