Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Diogelu Rhyddid - Ymgynghoriad bellach ar agor

Dydd Iau 17eg Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a'r DHSC ymgynghoriad ar y rheoliadau a'r cod ymarfer ar gyfer gweithredu Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) . Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 7 Gorffennaf 2022.

I ddarllen y datganiad llawn gyda manylion yr ymgynghoriad gweler y dolenni isod.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnal digwyddiadau amrywiol dros yr wythnosau nesaf i hwyluso cyfranogiad gweithredol yn yr ymgynghoriad.

Am unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch â Tom Grace MCA / DoLs Lead Tom.Grace@wales.nhs.uk