Neidio i'r prif gynnwy

Uned brofi Coronafeirws 'cerdded i fyny' dros dro yn agor ym Mlaenafon

Dydd Mercher 7 Hydref

Mae Uned Profi symudol dros dro newydd yn agor yn Blaenafon ar Ddydd Iau 8 Hydref.

Bydd yr uned newydd yn gweithredu bob bore rhwng 9am-12.30pm tan Ddydd Iau 15fed o Hydref.

Mae'r uned symudol newydd hon wedi'i hagor mewn ymateb i gyfradd gynyddol o achosion Coronafeirws ym Mlaenafon, a bydd yn darparu gwasanaeth profi 'Galw Heibio' i drigolion Torfaen, trwy apwyntiad yn unig.

Os oes gennych symptomau Coronafeirws- peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl - neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm amlwg, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am a 6pm i archebu prawf.

Bydd yr uned profi symudol wedi'i lleoli ym Maes Parcio Gwaith Haearn Blaenafon (NP4 9RN). Bydd ar agor rhwng 9am ar Ddydd Iau 8fed Hydref a 12.30pm Ddydd Iau 15 Hydref.

Bydd yr uned profi symudol 'Galw Heibio' ym Mhont-y-pŵl yn aros ym Maes Parcio'r Old Mill, Strŷd Trosnant (NP4 8AT), Pont-y-pŵl, ond nawr bydd yn gweithredu yn y prynhawn yn unig rhwng 2pm a 5.30pm.

 

Cyfleuster Profi Dros Dro Blaenafon

Gwaith Haearn Blaenafon - Maes Parcio NP4 9RN

Dydd Iau 8fed Hydref 2020 - Dydd Iau 15 Hydref 2020,

9am - 12.30pm bob dydd

 

Cyfleuster Profi Dros Dro Pont-y-pŵl

Maes Parcio Old Mill, Strŷd Trosnant, Pont-y-pŵl, NP4 8AT

Dydd Iau 8fed Hydref 2020 - Dydd Iau 15 Hydref 2020,

2pm - 5.30pm bob dydd

 

• Apwyntiad yn unig. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-6pm.

• Gwneir y prawf mewn 5 munud.

• Dim ond ar gyfer preswylwyr Torfaen. Dewch â ID a phrawf o gyfeiriad.

• Gwisgwch orchudd wyneb ar eich ffordd yn ôl ac ymlaen i'ch prawf.

• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau neu leoedd eraill ar y ffordd i'ch prawf neu oddi yno.

• Cofiwch, os oes gennych symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch cartref cyfan hunan-ynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniadau eich profion.

 

Mae cyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent i bobl sy'n byw y tu allan i Dorfaen. Ewch i'n gwefan i ddod o hyd i'r Uned Brofi fwyaf cyfleus i chi, a ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8 am-6pm i archebu. Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref.

Gwnewch gais ar-lein yn www.gov.wales neu ffoniwch 119.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae'r uned brofi symudol newydd hon yn Blaenafon yn darparu hygyrchedd pellach i brawf ar gyfer mwy o drigolion Torfaen ac yn caniatáu inni brofi mwy o bobl â symptomau Coronafeirws.

“Bydd yr uned brofi dros dro hon yn ein helpu i ddysgu mwy am gyfradd yr haint ac yn ein helpu i amddiffyn trigolion Torfaen. Byddwn yn annog pobl sy'n byw yn Nhorfaen, os oes gennych symptomau peswch, colli blas neu arogl neu dwymyn neu os ydych chi wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm amlwg i archebu prawf ar unwaith.

Rwy’n annog unrhyw un sydd â symptomau a’ch cartref cyfan i aros gartref nes i chi gael canlyniadau eich prawf i’ch amddiffyn chi, eich teulu a’ch cymuned. Trwy weithio gyda'n gilydd gallwn gadw Torfaen, a Gwent, yn ddiogel ”