Neidio i'r prif gynnwy

Uned Brofi COVID-19 Dros Dro Newydd yn Agor yn Abertyleri

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor uned brofi dros dro yn Abertyleri ar ddydd Sadwrn 17/10/2020.

 

Bydd yr uned symudol newydd yn darparu gwasanaeth profi yn y prynhawn i breswylwyr Blaenau Gwent, drwy apwyntiad yn unig.

 

Os oes gennych symptomau Coronafeirws (Covid-19) - peswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel neu wedi colli'ch synnwyr blasu a/neu arogli - neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm amlwg, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am - 6pm i drefnu prawf.

 

Bydd yr uned profi symudol ym maes parcio Clwb Rygbi Tredegar hefyd yn aros ar agor tan 19/10 - tra bod y ganolfan brofi dros dro ar hen safle Ysgol Gyfun Nantyglo bellach wedi cau.

Mae angen trefnu apwyntiad.

 

Cyfleuster Profi Coronafeirws Dros Dro Abertyleri

Canolfan Chwaraeon Abertyleri, Stryd Alma, Abertyleri, NP13 1QD

9am – 12pm – apwyntiad olaf 11:30 Ar Agor: 17/10/20 – 19/10/20

 

Cyfleuster Profi Coronafeirws Dros Dro Tredegar

Maes parcio RFC Tredegar, Park Hill Tredegar, NP22 3NN.

2pm-5.30pm - Ar Agor: 17/10/20 – 19/10/20

 

 

• Apwyntiadau'n unig. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am - 6pm.

• Mae'r prawf yn cael ei wneud mewn 5 munud

• Ar gyfer trigolion Blaenau Gwent yn unig. Dewch â dull adnabod a phrawf o gyfeiriad.

• Gwisgwch orchudd wyneb ar y ffordd i'ch prawf ac oddi yno

• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau na mannau eraill ar y ffordd i'r prawf nac oddi yno

• Cofiwch, os oes gennych symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch aelwyd gyfan hunanynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniad eich prawf.

 

I bobl sy'n byw y tu allan i ardal Blaenau Gwent, mae cyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am - 6pm i archebu.

Gallwch hefyd gael prawf drwy'r post i'ch cartref.

Gwnewch gais ar-lein yn https://llyw.cymru/ neu ffoniwch 119.