Mae wedi bod yn wythnos gyffrous o gynnydd ar Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall, gan ei bod bellach wedi'i throsglwyddo'n swyddogol gan y contractwyr, Kier!
Dros yr wythnosau nesaf, bydd staff o'r Bwrdd Iechyd a Gwasanaeth Canser Felindre nawr yn cydweithio i gyfarparu'r adeilad gyda'r holl offer, adnoddau a dodrefn angenrheidiol i baratoi ar gyfer ei agoriad.
Cadwch lygad am rai diweddariadau cyffrous yn dod yn fuan iawn!