Neidio i'r prif gynnwy

Ward Cardioleg yw'r Cyntaf yng Ngwent i Dderbyn Achrediad ar gyfer Gofal Cleifion o Ansawdd Uchel

Yr wythnos hon, y tîm clinigol ar Ward Cardioleg A2 yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yw'r tîm cyntaf yng Ngwent i ennill statws achredu i gydnabod safon uchel y gofal y maent yn ei ddarparu i gleifion.

Wedi’i nodi fel ward a berfformiodd yn dda ar draws nifer o feysydd hollbwysig, gan gynnwys profiad y claf a’r staff; diogelwch cleifion; effeithlonrwydd; atal a rheoli heintiau; gwella ansawdd; a rheoli meddyginiaethau, mae'r ward wedi derbyn achrediad Efydd fel rhan o Gofnod Adolygu Annibynnol Achredu Wardiau.

Cyflwynodd Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, eu tystysgrif i'r ward ar Ddydd Mawrth 17 Medi 2024 a'u llongyfarch ar eu cyflawniad gwych.

Dywedodd hi:

Dylen nhw i gyd fod yn falch iawn. Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol sy'n adlewyrchu ymroddiad y tîm i ddarparu gofal claf o ansawdd uchel a chwrdd â safonau trwyadl. Mae achredu wardiau yn broses bwysig sy’n helpu i wella a safoni ansawdd gofal ar draws wardiau a thimau o fewn y Bwrdd Iechyd.

“Mae gwaith caled ac ymrwymiad y tîm i ragoriaeth wedi'u cydnabod a bydd yn helpu i nodi meysydd o gryfder a chyfleoedd ar gyfer gwelliant pellach, gan feithrin diwylliant o wella ansawdd yn barhaus a gwella hyder cleifion yn y gofal a ddarperir. Mae'r cyflawniad hwn nid yn unig yn gydnabyddiaeth o'u perfformiad presennol ond hefyd yn sylfaen ar gyfer twf yn y dyfodol. Gobeithiwn y bydd eu hachrediad efydd yn ysbrydoli’r tîm hwn i anelu at y lefel nesaf o achrediad, gan wella ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu ymhellach.”

Dywedodd Gemma Adamson, Rheolwr Ward yn A2: “Fel tîm, rydym yn falch bod ein gwaith caled i gynnal gofal o ansawdd uchel a diogelwch claf wedi’i gydnabod trwy ennill yr achrediad efydd."

Llongyfarchiadau i bawb ar Ward A2!