Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd – 7-12 Mawrth

Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd (7–12 Mawrth), cyfarfuom ag Arian, sydd â radd Rheolaeth ac hyn o bryd yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd ac yn cwblhau gradd Meistr drwy gynllun Graddedigion Rheolaeth GIG Cymru.

Mae cynllun Graddedigion Rheolaeth GIG Cymru yn rhoi cyfle unigryw i ymgymryd â sawl lleoliad gwaith o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae hyn nid yn unig yn ehangu ymwybyddiaeth o'r gwahanol rolau swyddi sydd ar gael, ond hefyd yn rhoi cyfle i raddedigion gyfarfod a dysgu oddi wrth amrywiaeth o bobl ar draws llawer o wasanaethau. Yn ogystal, mae'r cynllun dwy flynedd yn rhoi amser i raddedigion ddatblygu eu sgiliau rheoli ac arwain ochr yn ochr â chwblhau gradd Meistr wedi'i hariannu i ategu eu dysgu yn y gwaith.

 

Ydych chi wedi mwynhau eich lleoliad?

“Rwy’n dod i ddiwedd fy lleoliad cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae fy mhrofiad hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel. Ers dechrau’r cynllun, rwyf wedi cael cefnogaeth dda. Ni allaf bwysleisio fwy pa mor galonogol a chyfeillgar mae pawb wedi bod a sut maent wedi fy nghynnwys i mewn rhai prosiectau cyffrous iawn.”

 

Sut olwg sydd ar eich swydd o ddydd i ddydd?

“Ar hyn o bryd, mae fy lleoliad presennol o fewn y tîm Cynllunio Corfforaethol. Mae diwrnod arferol yn cynnwys cyfarfodydd gyda gwahanol adrannau, ysgrifennu adroddiadau, edrych ar ddata a chefnogi prosiectau trwy gymryd nodiadau neu ymchwilio i bynciau. Hefyd, am ddau brynhawn yr wythnos, dwi'n mynychu darlithoedd prifysgol.

Fodd bynnag, ochr yn ochr â chyflawni fy nyletswyddau arferol fel rhan o’m swydd, rwyf hefyd yn cael cyfleoedd i fynd i ffwrdd a gwneud pethau drwy’r cynllun i raddedigion megis treulio’r diwrnod yn yr Adran Achosion Brys a chysgodi amrywiaeth o staff yn eu rolau gwahanol, sydd wedi rhoi cipolwg i mi ar sut mae Gofal Eilaidd yn gweithio. Rwyf hefyd wedi cael cyfleoedd i gwrdd â staff o Ofal Sylfaenol a gweld y gwaith y mae'r Rhwydweithiau Gofal Cymdogaeth yn ei wneud.

Mantais arall y cynllun graddedigion yw bod gennyf Fentor Gweithredol sy’n rhoi’r cyfle i mi dreulio amser gydag aelod o’r Tîm Gweithredol a dysgu oddi wrthynt. Mae hyn yn cymysgu fy rôl arferol o ddydd i ddydd ac yn fy ngalluogi i rwydweithio â llawer o bobl.”

 

Beth fu eich hoff brofiad yn ystod eich lleoliad gwaith?

“Mae’n anodd dewis hoff brofiad dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, atgof arbennig a fydd yn aros gyda mi oedd gallu mynd i'r theatr llawdriniaethol a gwylio llawdriniaeth. Roedd yn brofiad mor anhygoel!”

 

A ydych yn argymell cynllun Graddedigion Rheolaeth GIG Cymru?

“Rwy’n argymell y cynllun i unrhyw un sy’n chwilio am yrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac sydd am gael blas ar y gwahanol gyfleoedd gyrfa sydd gan y GIG i’w cynnig. Mae wedi bod yn gymaint o fraint gweithio i’r Bwrdd Iechyd, rydych chi’n teimlo eich bod yn gwneud gwahaniaeth i brofiadau iechyd y rhai sy’n byw yng Ngwent.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrfaoedd y GIG a Chynllun Rheoli Graddedigion GIG Cymru, ewch i: https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/

 

Gweler swyddi gwag diweddaraf y Bwrdd Iechyd.